56 yn rhagor o farwolaethau Covid yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
covidFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 56 yn rhagor o bobl yng Nghymru wedi marw gyda coronafeirws, gan fynd â chyfanswm y marwolaethau i 3,857, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cafodd 2,487 achos newydd eu cofnodi ddydd Gwener hefyd - sydd yn codi cyfanswm yr holl achosion positif yng Nghymru i 165,721.

O'r achosion newydd, roedd 238 yng Nghaerdydd, 216 yn Sir y Fflint a 199 yn Rhondda Cynon Taf.

Ond Wrecsam yw'r ardal gyda'r gyfradd uchaf o achosion dros yr wythnos ddiwethaf, gyda 904.7 fesul 100,000 o bobl.

Yn ail mae Pen-y-bont ar Ogwr gyda 894.3, yna Sir y Fflint gyda 673.3 a Merthyr Tudful gyda 648.1.

map

Pynciau cysylltiedig