Brexit: Sefyllfa'r celfyddydau'n 'dorcalonnus'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Theatr Canolfan y Mileniwm

Mae rhwystrau sy'n wynebu'r celfyddydau ar ôl Brexit yn "dorcalonnus" ac yn "cadarnhau eu hofnau gwaethaf", yn ôl arweinwyr y diwydiant.

Mae gwaith papur ychwanegol, cost ac ansicrwydd cyllid yn y dyfodol i gyd yn peri pryder i'r diwydiant.

Dywedodd Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, "mae'n dorcalonnus gweld bod ein hofnau gwaethaf mewn llawer o achosion wedi'u gwireddu".

Ychwanegodd Tom Rack, Cyfarwyddwr Artistig cwmni syrcas gyfoes No Fit State yng Nghaerdydd, "mae'n ergyd fawr".

Mae Mr Rack yn ailstrwythuro'i fodel busnes er mwyn osgoi teithio yn yr UE, ond dywed y bydd yn anochel yn golygu lleihau cynyrchiadau.

"Mae ein teithiau Ewropeaidd yn rhan fawr o'n gwaith a dyna brif ffynhonnell ein hincwm," meddai.

"Rydyn ni i bob pwrpas yn sybsideiddio'r gwaith rydyn ni'n ei wneud ym Mhrydain gyda'n teithiau Ewropeaidd ac mae hynny newydd gael ei wneud yn llawer anoddach.

"Roeddwn ni wedi'i weld yn dod, mae angen i ni baratoi ar ei gyfer a gwneud y gwaith papur a delio â'r fiwrocratiaeth, ond mae cost enfawr ynghlwm hefyd."

Dyfodol 'anodd'

Ychwanegodd fod cymryd sioeau y tu allan i Ewrop yn y gorffennol wedi bod yn ddrud a'i fod yn ofni y bydd gadael yr UE yn gwneud teithio yn Ewrop yr un mor gostus.

"£45,000 yw'r costau ychwanegol y cymerodd i ni fynd ag un sioe i Efrog Newydd gan fod ni ddim yn Ewrop... Mae'n swm mawr o arian ac rydym yn gweithredu heb wneud elw mawr. Mae'n mynd i fod yn anodd."

Ar hyn o bryd mae hanner yr artistiaid sy'n gweithio gyda No Fit State yn ddinasyddion yr UE.

"Er mwyn dod â nhw yma i'r DU i weithio, mae hynny'n hunllef logistaidd. Bydd angen fisas ac yswiriant iechyd arnyn nhw a phob math o ffactorau cymhleth, ac yn yr un modd os ydyn ni'n mynd allan gyda'n hartistiaid Prydeinig ac o Gymru, bydd yn rhaid i ni ysgwyddo'r costau yna."

Cwmnïoedd Cymru 'wedi elwa' o gronfeydd yr UE

Mae No Fit State, fel llawer o gwmnïau a phrosiectau yn sector y celfyddydau yng Nghymru wedi elwa o gronfeydd fel Ewrop Greadigol - cronfa'r UE sy'n buddsoddi mewn prosiectau celfyddydol a diwylliannol.

Mae'r gronfa wedi gwario mwy na £12.4m yng Nghymru dros y saith mlynedd ddiwethaf ar brosiectau cyfryngau a diwylliannol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Haf, pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, gall rhwystrau atal nifer o gynyrchiadau

Dywedodd Ms Haf o Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru nad yw'r ffigwr hwnnw'n cynrychioli gwir werth Ewrop i'r sector yng Nghymru.

"Cafwyd lefelau sylweddol o gyllid i'r sector yng Nghymru trwy gronfeydd strwythurol ar ffurf ein rhwydwaith anhygoel o ganolfannau celfyddydol, yr hyfforddiant sydd wedi mynd i'r diwydiannau creadigol," meddai.

"Ond mae yna hefyd y buddion anuniongyrchol rydyn ni wedi'u gweld o Ewrop Greadigol, a gan Erasmus, gennym ni a'n hartistiaid sy'n cymryd rhan mewn rhwydweithiau sydd wedi bod yn achubiaeth ar gyfer datblygu cysylltiadau diwylliannol rhyngwladol."

Dywedodd Llywodraeth y DU fod cronfa newydd wedi'i sefydlu yn lle Ewrop Greadigol.

"Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gefnogi economi diwylliannol a chreadigol y DU," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y DU.

"Cyhoeddon ni'r Gronfa Sgrin Fyd-eang, gwerth £7m, yn Adolygiad Gwariant 2020 er mwyn cefnogi sectorau sgriniau ar y llwyfan rhyngwladol.

"Bydd y gronfa yma'n cynyddu gwerth allforion sgrin y DU a'n cefnogi cynnwys annibynnol y DU er mwyn i ni allu cystadlu'n rhyngwladol."

Rhwystrau teithio

Yn ôl Ms Haf bydd yna lawer o rwystrau i deithio.

Yn ogystal â fisas a gorfod talu trethi, mae rheolau cabotage ynghylch cludo yn golygu na fydd tryciau yn gallu stopio mwy na theirgwaith mewn gwledydd Ewropeaidd eraill ac mae hi'n ofni y gallai hynny roi stop ar lawer o gynyrchiadau.

"Dyma'r manylion yr oedd gwir eu hangen arnom fisoedd yn ôl," meddai.

"Mae yna gyfleoedd ac mae yna ffyrdd o wneud pethau'n wahanol ac rydw i'n meddwl bod angen i ni ganolbwyntio ar hynny, ond mae hynny'n mynd i gymryd amser."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cerddor Angharad Jenkins yn gobeithio bydd pobl eraill yn gallu mwynhau'r un fath o brofiadau a hithau

Un artist sy'n gwerthfawrogi'r cyfleoedd y mae wedi'u cael i ymweld a theithio yn Ewrop yw'r cerddor gwerin Angharad Jenkins.

Mae ei band, Calan, wedi teithio'n helaeth ledled y byd, ond dywedodd hyd yn hyn fod teithio yn Ewrop mor hawdd â theithio o fewn y DU.

"Mae wedi bod mor hawdd teithio o amgylch Ewrop, dim ond mater o archebu'ch hediadau neu'r fferi a mynd yno a pherfformio, a dod yn ôl a pheidio gorfod meddwl. Mae bron fel teithio o amgylch y DU neu fynd i mewn i Loegr."

Ond dywedodd na fydd gwaith papur a chostau ychwanegol yn ei hatal hi na'i band Calan rhag parhau i deithio yn Ewrop.

"Ni fydd yn fy rhwystro oherwydd mae'r profiadau rydw i wedi cael teithio drostyn nhw wedi bod yn rhai o'r rhai mwyaf cyffrous yn fy ngyrfa hyd yma, gan weithio gyda cherddorion eraill a chael blas ar wahanol ddiwylliannau.

"Rwy'n poeni y gallai artistiaid iau, llai profiadol gael eu digalonni oherwydd pan rydw i wedi gorfod gwneud pethau fel hyn yn America, rydyn ni wedi cael help asiant i gymryd y baich. Ac os ydych chi ddim yn gwybod beth rydych chi'n ei wneud, gall fod mor ddryslyd."

Teithio'n ffordd o 'ddysgu am eich hun'

Mae Angharad Jenkins yn diolch i gwrs gwerin breswyl a fynychodd yn Sweden fel rhan o gyfnewidfa Ewropeaidd am danio ei diddordeb mewn cerddoriaeth.

Dywedodd na fyddai hi'n gerddor heddiw pe na bai wedi cael y cyfle hwnnw.

"Rwy'n credu, trwy deithio a chyfnewid diwylliannau, y gallwch chi ddysgu cymaint mwy amdanoch chi'ch hun a'ch diwylliant eich hun a darganfod mewn gwirionedd fod gennym ni gymaint yn gyffredin.

"Byddai'n gymaint o drueni pe bai rhwystrau yn y ffordd i stopio'r mathau hynny o gyfnewid yn digwydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn ystod cyfnod anodd iawn i'r sector rydym wedi ymrwymo i helpu i gynnal a gwella presenoldeb Ewropeaidd a byd-eang cryf.

"Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar draws ein sefydliadau diwylliannol i chwalu unrhyw rwystrau a manteisio ar gyfleoedd newydd."

Pynciau cysylltiedig