Brexit: 6,000 dal heb wneud cais i aros yn y DU

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tiago Pentiga a Mirasol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tiago Pentiga wedi methu a chael y dogfennau cywir i wneud cais ar gyfer ei ferch fach Mirasol

Mae'n bosib bod 6,000 o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru heb wneud cais i aros yn y DU.

Yn eu plith mae "llawer o grwpiau bregus" fel pobl hŷn a'r digartref, yn ôl elusen Mind Casnewydd.

Maen nhw'n galw ar sefydliadau i gyfeirio unigolion at elusennau sy'n helpu â cheisiadau i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog.

Dywedodd y Swyddfa Gartref bod hyd at £17m wedi ei glustnodi i gefnogi ymgeiswyr.

Yng Nghymru, cafodd 74,300 cais ei dderbyn gan Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd cyn diwedd Tachwedd. Mae'r dyddiad cau ar 30 Mehefin 2021.

Mae Tim Fox yn weithiwr prosiect yn ardal Wrecsam i elusen genedlaethol Mind Casnewydd, un o'r sefydliadau sydd wedi eu hariannu gan y Swyddfa Gartref i roi help i bobl ymgeisio.

"Mae'n eithaf anodd dweud yn union pwy sydd ar ôl, ond mae 'na dipyn o grwpiau bregus 'dan ni'n credu sydd dal angen gwneud cais," meddai.

Dywedodd bod "tua 6,000" person i gyd, gan gynnwys pobl sydd mewn oed, mewn gofal, yn ddigartref, neu â rhwystrau iaith.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dogfennau ar gyfer Mirasol mewn is-lysgenhadaeth ym Manceinion

Awgryma ystadegau'r Swyddfa Gartref fod y pandemig wedi effeithio ar faint sy'n ymgeisio.

Pob mis rhwng Ebrill ac Awst, cafodd llai na 2,000 o geisiadau eu cyflwyno, cyn i'r niferoedd gynyddu eto ym mis Medi.

Yn ôl Mr Fox, mae'r coronafeirws wedi gwneud hi'n "llawer anoddach" i gefnogi rhai pobl ac wedi arwain at oedi gyda cheisiadau pobl eraill.

Dyna sefyllfa Tiago Petinga, 32, sydd wedi byw yn Wrecsam am 16 mlynedd.

Ynghyd â'i wraig a'i ferch hynaf, mae o wedi llwyddo yn ei gais am statws preswylydd sefydlog.

Ond nid felly ei ferch ieuengaf, Mirasol, gan nad oedd y teulu yn gallu nôl ei dogfennau o is-lysgenhadaeth Portiwgal achos y cyfyngiadau.

"Cafodd ei geni fis Ionawr diwethaf, a rhai misoedd wedyn dechreuodd Covid a bob dim", meddai.

"'Dan ni angen mynd i Fanceinion i nôl ei dogfennau, a fedrwn ni ddim mynd o Gymru i [Loegr] fel arfer."

Yn y cyd-destun hwn, mae Mr Fox yn galw ar elusennau a chyrff cyhoeddus sy'n gweithio a dinasyddion yr UE i'w cyfeirio at y rheiny sy'n cynnig cymorth.

"Mae 'na ychydig o amser ar ôl, ond os yw pobl yn cael eu cyfeirio'n sydyn yna bydd mwy o amser i'w cefnogi. Ac mae'n bosib bydd y rheiny sy'n fregus angen ychydig mwy o gefnogaeth i ddod o hyd i'r dogfennau cywir."

Ymhlith y grwpiau allweddol hynny mae pobl ddigartref, a allai fod heb y dystiolaeth sydd ei angen na'r adnoddau i gwblhau cais ar-lein.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rhys Gwilym-Taylor fod angen newid y dyddiad cau

Yn ôl Rhys Gwilym-Taylor o elusen Crisis, dylai'r dyddiad cau gael ei newid.

"Mae'n anodd iawn, iawn i bobl wneud cais a chael mynediad i'r dystiolaeth sydd ei angen.

"'Dyn ni'n gwybod, o'n gwasanaethau ni, fod rhai pobl wedi gorfod disgwyl blwyddyn am y dystiolaeth - a does ond chwe mis nawr tan y dyddiad cau. Felly mae'n her.

"Byddwn ni'n croesawu estyniad i'r dyddiad cau ond ry'n ni'n credu hefyd y dylai bod eithriad parhaol ar gyfer pobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd, i gydnabod pa mor anodd yw hi i'r rheiny sydd wedi colli'r wybodaeth a'r dystiolaeth berthnasol i wneud cais llwyddiannus."

Ymateb llywodraethau

Yn ôl y Swyddfa Gartref, bydd cyfle i ymgeiswyr sydd â "seiliau rhesymol" dros fethu'r dyddiad cau i wneud hynny yn ddiweddarach, a bydd cyngor ar y mater yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2021.

Ar draws y DU, mae 4.5m person wedi gwneud cais i'r cynllun.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Rydym yn falch bod mwy na 4.1 miliwn wedi derbyn statws hyd yn hyn a byddwn yn annog unrhyw un sy'n gymwys i wneud cais cyn y dyddiad terfynol.

Ychwanegodd fod hyd at £17m wedi ei ddarparu ar gyfer 72 o elusennau a chynghorau sir er mwyn cefnogi grwpiau bregus sy'n gymwys.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi sefydlu grŵp cydlynu sy'n gyfrifol am helpu grwpiau sy'n cynnig cefnogaeth a chyngor i ddinasyddion yr EU yng Nghymru.

"Rydym am ailadrodd y neges i bob dinesydd o'r Undeb Ewropeaidd sy'n byw yma, Cymru yw eich cartref, a bydd o o hyd yn gartref ac rydym am i chi aros.

"Felly mae allweddol bwysig i gofnodi ar gyfer statws parhaol cyn y dyddiad terfynol o 30 Mehefin 2021."

Pynciau cysylltiedig