'Y dyn peryclaf i fi ei weld erioed mewn llys barn'
- Cyhoeddwyd
Mae drama newydd The Pembrokeshire Murders yn cael ei darlledu ar ITV yr wythnos yma yn olrhain cyfnod arswydus yn hanes gorllewin Cymru.
Cafwyd John William Cooper yn euog o lofruddio pedwar person yn Sir Benfro yn ystod yr 80au - un o'i lysenwau oedd y 'Bullseye Killer' am iddo ymddangos ar y rhaglen deledu boblogaidd pan oedd eisoes wedi llofruddio.
Rhywun a oedd yn adrodd o'r achos llys yn Abertawe yn 2011 oedd y gohebydd, Aled Scourfield, sy'n rhannu ei atgofion o John Cooper a'r achos llys erchyll.
Yn ystod gyrfa sydd wedi para ugain mlynedd ym myd newyddiaduraeth, llond dwrn o achosion llys sydd yn aros yn y cof. Mae hynny yn arbennig o wir am un achos yn anad dim yn hanes Sir Benfro.
Roedd yr achos yn erbyn John William Cooper yn Llys y Goron Abertawe yn 2011, yn pontio'r degawdau ac yn seiliedig ar dystiolaeth fforensig a gasglwyd rhyw 15 mlynedd cyn iddo gael ei ddyfarnu yn euog o bedwar llofruddiaeth erchyll.
Lleidr oedd John Cooper a drodd yn llofrudd. Does dim amheuaeth gen i ei fod yn rhywun oedd yn hoffi'r cyffro o dorri mewn i gartrefi. Roedd yn defnyddio'r caeau lleol ger ei gartref i ddiflannu i dywyllwch y nos. Nid dwyn eiddo oedd yn bwysig iddo, ond y paratoi. Roedd yn gwisgo mewn du gyda balaclafa dros ei wyneb, ac yn cario gwn dau farel.
Ar adegau, fe gafodd ei herio wrth iddo droseddu. Does dim amheuaeth, gen i, mai dyna oedd yn gyfrifol am farwolaethau Richard a Helen Thomas ym Mharc Scoveston, ychydig ddyddiau cyn y Nadolig yn 1985.
Roedd Cooper wedi mynd yna i ddwyn, gan wybod fod y Thomasiaid yn ffermwyr cefnog oedd yn cadw arian parod yn y tŷ.
Roedd Cooper yn gwybod bod Helen Thomas yna ar ei phen ei hun yn yr hen ffermdy crand, a phan heriwyd ef gan ei brawd, roedd Cooper yn barod i lofruddio'r ddau mewn gwaed oer, cyn llosgi'r ffermdy yn ulw. Dyma ddyn oedd yn paratoi yn ofalus i droseddu, ac yn barod i wneud unrhywbeth i gelu ei droseddau.
Roedd dwylo Helen Thomas wedi cael eu clymu cyn iddi cael ei llofruddio. Roedd y ddau wedi cael eu saethu â gwn dau farel cyn i'w cartref anghysbell losgi yn ulw.
Dwyn manylion banc
Roedd yr ymosodiad ar y Dixons, ym mis Mehefin 1989, yn wahanol. Roedd Peter a Gwenda Dixon ar ddiwrnod olaf eu gwyliau yn Little Haven, ac wedi penderfynu mynd am dro ar lwybr yr arfordir tra fod eu pabell yn sychu, cyn pacio i fynd adref.
Yn aros amdanyn nhw, gyda gwn dau farel, oedd John William Cooper. Fe glymodd y ddau, cyn gorfodi Peter Dixon i roi manylion ei gerdyn banc. Roedd yna beth tystiolaeth fod Gwenda Dixon wedi cael ei cham-drin yn rhywiol yn ystod yr ymosodiad erchyll.
Taniodd Cooper ei wn atyn nhw o fewn tafliad carreg, cyn cuddio'r cyrff ar lwybr yr arfordir. Gwelwyd dyn gwyllt yr olwg yn defnyddio cerdyn banc Peter Dixon yn y dyddiau wedyn.
Mae yna dystiolaeth hefyd fod Cooper wedi gwerthu modrwy briodas Mr Dixon i emydd lleol ym Mhenfro. Yn fwy rhyfedd fyth, mae hi'n ymddangos fod Cooper wedi mynd â phâr o drowsus cwta Gwenda Dixon ac wedi eu cadw, fel rhyw femento gwyrdroëdig o'r llofruddiaeth.
Dyma ddyn oedd yn hoffi rheoli pobl. Yn hoffi eu bygwth â thrais. Rhywun oedd yn barod i ladd er mwyn dwyn. Dyma lofrudd oedd yn mwynhau ei waith.
Roedd yna bob math o ddamcaniaethau am lofruddiaethau'r Dixons. A'i smyglwyr cyffuriau oedd wedi eu saethu ar lannau Sir Benfro, neu'r IRA hyd yn oed? A oedd yna gysylltiad gyda marwolaethau'r Thomasiaid, bedair mlynedd ynghynt? Ofer fu'r damcaniaethu, ac roedd llofrudd Sir Benfro yn parhau i fod â'i draed yn rhydd.
Roedd yna bedwar achos nawr o lofruddiaeth yn ardal Heddlu Dyfed Powys oedd heb eu datrys, a'r cyfan yn pwyso yn drwm iawn ar adran y CID.
Fel lleidr y dechreuodd Cooper ei yrfa. Dyn ei filltir sgwâr oedd e. Gweithiodd fel gwas ffarm, ac roedd yn adnabyddus yn yr ardal fel dyn garw a pheryglus. Roedd yn adnabod ardal Aberdaugleddau yn dda, ac roedd wedi pysgota yn Little Haven.
Fel lleidr, mae'n glir iddo gael blas am y cyffro o droseddu. Roedd yn defnyddio'r caeau ger ei gartref fel ffordd o gyrraedd tai, er mwyn lladrata liw nos. Ym mis Tachwedd 1996, fe aeth i mewn i gartref cyn athrawes, Sheila Clark, a'i bygwth gyda gwn dau farel tra'n gwisgo balaclafa.
Tystiolaeth DNA hollbwysig
Ym 1998, fe garcharwyd ef am 15 mlynedd am ddegau o droseddau, ac fe ddechreuodd yr heddlu amau mai fe oedd yn gyfrifol am lofruddiaethau Sir Benfro.
Roedd y darnau o dystiolaeth a gasglwyd yn ystod ymchwiliad Huntsman yn hollol allweddol i'r achos llys yn 2011, pan garcharwyd Cooper am y pedwar achos o lofruddiaeth ac ymosodiad anweddus ar griw o bobl ifanc yn Aberdaugleddau ym mis Mawrth 1996.
Tystiolaeth DNA a thystiolaeth fforensig oedd yn gyfrifol am roi'r ateb i ddirgelwch oedd wedi bodoli am 20 mlynedd a mwy. Roedd y cysylltiadau fforensig, a ddatgelwyd yn ystod yr achos, yn ei gwneud hi'n hollol amlwg, fod y rhwyd yn cau am John Cooper o'r diwedd.
Roedd Cooper wedi cadw'r gwn dau farel a ddefnyddiwyd i saethu'r Dixons. O dan haenau o baent ar y barel, roedd olion gwaed Peter Dixon.
Roedd proffil DNA Peter Dixon a'r pâr o drowsus cwta yng nghartref Cooper, oedd mwy na thebyg yn arfer bod yn eiddo i Gwenda Dixon. Roedd tystiolaeth ffeibr hefyd yn clymu Cooper i lofruddiaeth Richard Thomas.
Yn ystod yr achos, roedd Cooper wedi mynnu ei fod wedi cael cam, ac yn ddieuog, a nad oedd yn gyfrifol am yr achosion o ladrata, heb sôn am unrhyw lofruddiaethau.
Bob dydd, yn llys y goron Abertawe mi fyddai'n ymddangos yn y doc wedi ei wisgo mewn siwt drwsiadus, yn edrych mwy fel pregethwr na llofrudd.
'Fe lithrodd y masg'
Trobwynt yr achos, heb os, oedd yr eiliad pan groesholwyd Cooper gan Gerard Elias QC. Dyma beth oedd dosbarth feistr gan y bargyfreithiwr bonheddig. Mewn sesiwn o holi miniog, dangosodd Elias fod Cooper wedi dweud celwydd droeon yn ystod ei dystiolaeth.
Pan ddaeth y dyfarniad, ar ôl rhai dyddiau, ei fod yn euog, fe ffrwydrodd Cooper fel dyn o'i gof. Dyma'r tro cyntaf i ni weld y John Cooper go iawn yn ystod yr achos llys, ac fe lithrodd y masg o'r diwedd.
Cafodd ei garcharu am oes am ei droseddau erchyll, ond fe erys cwestiynau hyd heddiw am hyd a lled ei droseddu.
Wedi llofruddio eraill?
Ar ôl yr achos, bu nifer o bobl ardal gogledd Sir Benfro yn cysylltu gyda fi gan fy annog i graffu ar achos Griff a Pati Thomas o Langolman. Cafodd y brawd a chwaer oedrannus eu darganfod yn farw yn eu cartref, Ffynnon Samson, yn Llangolman ym mis Rhagfyr 1976.
Roedd Pati wedi cael ei churo i farwolaeth. Roedd Griff, ei brawd, wedi dioddef anafiadau i'w ben ac wedi marw ar ôl i dân losgi rhan o'i gorff.
Yn dilyn ymchwiliad, sydd heddiw yn edrych yn llai na thrwyadl, penderfynodd Heddlu Dyfed Powys taw'r brawd oedd wedi lladd ei chwaer ar ôl dadl yn y cartref, cyn llosgi ei hun mewn tân. Rwy'n gwbl sicr, ar ôl astudio manylion yr achos yn fanwl, ac o weld yr anafiadau dychrynllyd i'r ddau mewn lluniau sydd yn ffeil y cwest, fod yna berson arall wedi bod yn y tŷ ac yn gyfrifol am y llofruddiaeth.
Mewn rhaglen y bues i yn ei chyflwyno i gyfres Taro 9, dolen allanol, fe awgrymodd seicolegydd fforensig, Dr Clive Sims, fod rhywun wedi mynd i Ffynnon Samson i ddwyn, ac y dylid o leia ystyried John Cooper fel person allai fod yn gysylltiedig â marwolaethau'r Thomasiaid.
Clywais i adroddiadau gan bobl yr ardal, oedd heb eu cadarnhau, fod Cooper yn gwneud gwaith ffensio yng ngogledd Sir Benfro ac yn ymweld â'r ardal yn rheolaidd i hela. Gwrthododd Heddlu Dyfed Powys ag ailagor yr ymchwiliad. Go brin fod llawer o dystiolaeth wedi ei gadw o ymchwiliad Ffynnon Samson.
Yn fwy pryderus efallai, ydy'r cysylltiad rhwng Cooper a Flo Evans. Fe ddarganfuwyd y bensiynwraig 77 oed wedi boddi, yn ei dillad, mewn bath yn llawn dŵr ym 1989. Roedd hi yn byw yn agos at Cooper, ac roedd e wedi bod gwneud gwaith iddi o gwmpas ei thyddyn. Mae ei pherthnasau yn amau yn gryf bod Cooper wedi ei llofruddio.
Mae rhai wedi awgrymu, hyd yn oed, efallai bod yna gysylltiad posib rhwng John Cooper â marwolaethau Megan a Harry Tooze, a ddarganfuwyd wedi saethu yn farw gan wn dau farel yn Llanhari ym 1993. Mae Heddlu'r De yn dal i chwilio am eu llofrudd.
'Seicopath'
Yr hyn sydd yn glir am Cooper yw ei fod yn seicopath. Dyw e ddim yn droseddwr sydd yn mynd i ddatgelu gwybodaeth am ei droseddau o'i wirfodd.
Does yna ddim euogrwydd na edifeirwch am yr hyn mae e wedi gwneud, ac mae yna ddiffyg empathi llwyr gyda theuluoedd y rhai sydd wedi eu llofruddio.
Mewn 20 mlynedd o ohebu, dyma'r dyn peryclaf i fi ei weld erioed mewn llys barn. Wna i fyth anghofio ei lygaid oeraidd a'r ymdeimlad hynny fod ganddo gyfrinachau erchyll na fydd e byth yn fodlon eu datgelu.
Hefyd o ddiddordeb: