Ronnie 'Cadno' a llofruddiaethau Pentywyn

  • Cyhoeddwyd
Ronnie 'Cadno'

Does dim byd mwy Cymreig. Cael eich adnabod ar ôl eich cartref yn hytrach na chyfenw. Llinach a thras wedi eu gwreiddio mewn llain o dir.

Mae rhywbeth cynnes, cartrefol a chysurus hyd yn oed, yn ei gylch.

I'r gwrthwyneb i'r hyn ddigwyddodd ar fferm Ronnie 'Cadno', ar noson yr 16 Hydref 1953.

Rhyw naw milltir sydd rhwng fferm Cadno, cartre' Ronnie Harries, a phentre' Llangynin ym mherfeddion Sir Gaerfyrddin, lle'r nos Wener honno bron i 70 mlynedd yn ôl, roedd cwpwl canol oed yn mynd i Gwrdd Diolchgarwch yng nghapel Y Bryn.

Dyma fyddai eu hoedfa ola' nhw.

Cyfeillgarwch arweiniodd at lofruddiaeth

Er nad oedd John a Phoebe Harries yn perthyn yn agos i'r gŵr 24 oed, roedd mab y Cadno yn ystyried y ddau yn deulu.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Heddlu Dyfed-Powys

Cyfeillgarwch arweiniodd at eu llofruddiaethau gwaedlyd yn y pen draw.

"'Ro'n i'n mynd i'r capel yn aml ar gefn beic, ac yn arfer parcio hwnnw lan yn erbyn wal clos y Derlwyn," meddai Iori Rees sy'n byw yn Adpar ger Castell Newydd Emlyn bellach.

"Ro'n i yn eistedd ar eu pwys nhw yn yr oedfa ola' honno. Yn y cefn ro'n nhw gan amlaf yn eistedd, pobl y seddau cefn, ffermwyr tawel, hyfryd a diymhongar."

Fore trannoeth roedd Land Rover ar glos fferm yr Harriesiaid ac roedd Ronnie wedi cyrraedd i wneud y godro, peth anarferol iawn. Honnodd ei fod wedi gyrru'r cwpwl i orsaf drenau Caerfyrddin gan fod y ddau am gael gwyliau yn Llundain.

Ond tybiwyd yn syth nad oedd ei stori yn dal dŵr.

Yn un peth, doedd y pâr heb fod oddi cartre' ers dros 20 mlynedd, a doedden nhw ddim wedi sôn wrth eu cymdogion am y gwyliau.

"Prynodd Mrs Harries ddarn o gig gyda'r bwtshwr y dydd Gwener hwnnw y diflannodd hi, a does neb yn coginio joint o gig a'i adael yn y ffwrn os y'n nhw yn mynd i Lunden ar eu gwylie, os e?" meddai John Adams Lewis, a fagwyd ger y pentre'.

Galw ar Scotland Yard

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Heddlu Dyfed-Powys

Gydag amser, cynyddodd y pryder a sylweddolwyd bod y gwartheg nawr yn diflannu o dir y Derlwyn. Roedd Ronnie Harries wedi eu symud nhw i borfeydd Cadno.

Galwyd ar Scotland Yard i arwain yr ymchwiliad dan arweiniad y Prif Arolygydd John Capstick. Roedd tensiynau wedi codi yn lleol, gyda nifer yn credu nad oedd yr awdurdodau yn gweithio'n ddigon caled i ddod o hyd i'r cwpwl.

Ond heb gyrff doedd dim modd dechrau datrys yr achos.

Un camgymeriad mawr wnaeth Ronnie Harries oedd ceisio hawlio siec o eiddo John Harries am £909, ond roedd hi'n amlwg taw'r swm gwreiddiol arno oedd £9. Roedd e'n honni bod llaeth wedi arllwys arni gan achosi i'r ffigwr fod yn annelwig.

Y rhwyd yn cau

"'Wy'n cofio tramp yn dod lan i'n nhad a gofyn am sigarét, ond doedd nhad ddim yn smoco. Des i ddeall yn ddiweddarach taw ditectif mewn gwirionedd o'dd y tramp hwn, yn trio casglu gwybodaeth am beth ddigwyddodd i'r Harriesiaid," meddai John Adams Lewis.

Chwiliwyd ffermydd a mynydd cyfagos y Marros uwchben Pentywyn, ond doedd dim golwg o'r ddau.

Ond roedd y rhwyd yn dechrau cau. Un man oedd ar ôl… Cadno.

Gyda Ronnie Harries yn dilyn gwaith yr heddlu o ffenestr llofft y tŷ fferm, dechreuwyd balu cae cêl. Roedd arwyddion bod y ddaear yno wedi ei balu beth amser ynghynt. O fewn munudau darganfyddwyd dau gorff ac arestiwyd Ronnie Harries ar gyhuddiad o lofruddiaeth.

'Pan bydd hwn drosodd, bryna' i bryd o fwyd i chi'

Ffynhonnell y llun, Bryn Jones

Newydd gychwyn ar ei yrfa fel heddwas ifanc oedd Bryn Jones yn 1953. Yn ddiweddarach daeth yn Uwch Arolygydd gyda Heddlu Dyfed Powys.

"Fi a bachan arall oedd yn gyfrifol am yrru Ronnie Cadno nôl a blaen o garchar Abertawe i'r llys yng Nghaerfyrddin. A 'wy'n cofio fe yn gweud, 'Bois, pan fydd hyn i gyd drosodd mi bryna' i bryd o fwyd i chi'… 'wy dal i aros am y pryd hwnnw."

Yn y llys roedd Jean Evans, oedd newydd ddechrau fel plismones ifanc gyda Heddlu Sir Gaerfyrddin.

"'Ro'n i'n arfer gweitho mewn arwerthwr amaethyddol, Gwili Farmers, ac roedd Ronnie Harries yn arfer dod mewn i brynu stwff, felly odd e yn 'nabod fi. Ro'n i yn yr ysgol hefyd gyda Doris ei wraig e.

"'Wy'n cofio fe yn gwenu arna i yn y llys i ddangos bod e yn 'nabod fi, ac wedyn dyma'r barnwr yn rhoi'r capan du ar ei ben i ddweud bod e i gael ei grogi."

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Heddlu Dyfed-Powys

Crogwyd Harries dan oruchwiliaeth y prif grogwr Albert Pierrpoint yn Ebrill 1954 yng ngharchar Abertawe.

Ond beth yn union ddigwyddodd ar y noson honno ar ôl y Cwrdd Diolchgarwch?

Y gred yw bod mab y Cadno wedi denu John a Phoebe Harries i'r fferm i weld pydew roedd e newydd dorri, cyn ymosod ar y ddau gyda morthwyl a'u claddu.

Ond beth oedd y cymhelliant tu ôl y llofruddiaethau?

Iori Rees sydd â'r gair olaf: "Trachwant oedd e, trachwant am arian ac eiddo. Roedd John a Phoebe wedi ymserchu yn y crwt. Doedd dim eisiau pobl well arnoch chi i ddweud y gwir. Doedden nhw ddim yn haeddu beth ddigwyddodd iddyn nhw o gwbl."

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Y morthwyl a ddefnyddiwyd i lofruddio John a Phoebe Harries

Y cynhyrchydd radio, Trystan ab Ifan, fu ar drywydd y llofruddiaeth a frawychodd y gymuned fach yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer y rhaglen O Glos y Cadno i'r Crocbren, sydd ar BBC Radio Cymru am 18.30 nos Sul 26 Gorffennaf, ac ar gael ar BBC Sounds wedi hynny.

Hefyd o ddiddordeb: