Y tîm sy'n achub cŵn ar draws Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BenFfynhonnell y llun, Jill Trick
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ben ei achub ar ôl dianc yn agos at yr M4

Mae cannoedd o anifeiliaid anwes wedi cael eu hachub gan dîm o wirfoddolwyr yn ystod y pandemig.

Dywedodd Jill Trick, un aelod o dîm Missing Dogs Team Wales, ei bod wedi colli cyfrif ar nifer y cŵn y mae hi wedi dod o hyd iddynt dros y saith blynedd mae hi wedi bod yn rhan o'r tîm.

Fel arfer mae Ms Trick yn gweithio gyda thua naw gwirfoddolwr arall, ac maen nhw'n aml yn brysur.

"Mae mor brysur. Roedd mwy o gŵn y flwyddyn ddiwethaf nag yn y saith cyn hynny, ac yn barod ym mis Ionawr mae nifer wedi cael eu dwyn eto," meddai.

Mae'r tîm yn edrych ar gyfryngau cymdeithasol am bostiau am gŵn sydd ar goll, a'n cysylltu â'u perchnogion am fanylion.

Bu'n rhaid i dîm Jill ymateb i alwadau dros adeg y Nadolig hefyd.

Daeth un alwad i mewn ar noswyl Nadolig yn gofyn am help i ddod o hyd i gi o'r enw Bobby.

Dilynon nhw adroddiadau o sŵn ci yn cwyno mewn chwarel, ac fe drefnodd y tîm i ddrôn a'r gwasanaeth tân ddod i helpu chwilio.

Gwelwyd Bobby ar ymyl serth yn y chwarel, ac fe gafodd ei achub a'i ddychwelyd nôl i'w deulu ar Ddydd San Steffan.

Un arall aeth ar goll dros gyfnod y Nadolig oedd y chihuahua, Enzo.

Cafodd ei adrodd ar goll ar 20 Rhagfyr ar ôl dianc wrth fynd am dro gyda'i berchennog, ac fe dreuliodd 11 diwrnod ar fynydd yn yr oerfel.

Fe gafodd Enzo ei weld mewn gardd ffermwr, yn ddiogel oni bai am ychydig o farciau ble roedd ei harnais wedi bod.

Ffynhonnell y llun, Jill Trick
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Enzo 11 diwrnod ar y mynydd cyn cael ei achub dros y Nadolig

Dywedodd Ms Trick eu bod yn dilyn camau penodol fel arfer unwaith iddyn nhw gael adroddiad am gi sydd ar goll.

"Y peth cyntaf rydyn ni'n gwneud yw cymryd y manylion a rhoi cyngor am ddilyn arogl, trwy roi dillad sydd heb ei olchi ar y lein ddillad fel bod y ci yn gallu cael yr arogl," meddai.

"Mae dillad gwely, yn enwedig clustogau, yn effeithiol iawn."

Yn ôl Ms Trick, naw gwaith allan o 10, mae'r dull yma'n gweithio.

Hyd yn oed mewn ardaloedd arfordirol neu fynyddig, gall gŵn ddod o hyd i'w ffordd adref trwy ddilyn yr arogl.

Ffynhonnell y llun, Jill Trick
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jill Trick, aelod o Missing Dogs Team Wales, ei bod wastad wedi caru cŵn

Os nad yw hynny'n gweithio mae'r tîm yn gwirio os oes gan y ci microsglodyn ac yn sicrhau bod ei fanylion cyswllt yn gywir.

Yna, mae'n amser am bosteri a thargedu'r cyfryngau cymdeithasol - yn ddelfrydol o fewn 24 awr i'r ci fynd ar goll.

Maen nhw'n ffocysu ar ardaloedd lle mae cŵn wedi cael eu gweld, a'n rhoi camerâu yno er mwyn gweld os ydy'r ci dal yn yr ardal.

"Fi'n mynd allan hefo Swedish meatballs, gall dim ci wrthod y rheina!" meddai ms Trick.

Pynciau cysylltiedig