Plaid Cymru yn gwahardd cynghorydd am sylwadau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gruffydd Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Cynghorydd Gruffydd Williams wedi dweud fod nifer o gwestiynau 'heb eu hateb' am Covid-19

Mae cynghorydd o Wynedd, wnaeth wneud sylwadau a rhannu deunydd ar wefannau cymdeithasol yn amau bodolaeth Covid-19, wedi ei wahardd o Blaid Cymru wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Mewn fideo ar Facebook dywedodd y Cynghorydd Gruffydd Williams, Nefyn fod "nifer o gwestiynau" angen eu gofyn a'i fod yn poeni fod pobl yn derbyn brechlynnau "ar sail propaganda".

Wrth siarad gyda gohebydd Newyddion S4C, dywedodd y Cynghorydd Williams "fod gormod o gwestiynau heb eu hateb" am Covid-19 a'i fod yn "poeni'n enbyd fod pawb yn heidio am frechiadau didrwydded ar sail propaganda a ffug ystadegau".

Ychwanegodd yn ei fideo fod ganddo "ddyletswydd fel cynghorydd i rannu'r wybodaeth" y mae o'n meddwl y "dylsa pobl gael".

Datganiad Plaid Cymru

Nos Wener dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mewn cyfnod o argyfwng byd eang, mae angen gochel rhag rhannu unrhyw negeseuon sydd yn peryglu iechyd cyhoeddus.

"Mae cyfrifoldeb ar bawb i warchod y gwasanaeth iechyd ac mae gan gynrychiolwyr etholedig rôl allweddol i'w chwarae yn hynny o beth.

"Ers dechrau'r pandemig bu holl sylw Plaid Cymru ar arbed bywydau a gwarchod swyddi, ac mae argaeledd y brechlyn yn rhoi gobaith i ni bod dyddiau gwell ar y gorwel.

"Does dim lle i negeseuon ffug ym Mhlaid Cymru nac mewn cymdeithas yn ehangach ac yn sgil hynny bydd aelodaeth y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cael ei atal hyd nes y bydd ymchwiliad i'r mater yn dirwyn i ben."

Doedd y Cynghorydd ddim am wneud sylw pellach ar y mater.

Mae'r Cynghorydd sir, sy'n cynrychioli ardal Nefyn ym Mhen Llŷn, hefyd wedi rhannu sawl erthygl yn amau Covid-19 ac mae o wedi cael ei feirniadu am fod yn "anghyfrifol".

Mewn ymateb i'w sylwadau dywedodd y Cynghorydd Llafur dros ardal Bethel, Sion Jones, ei fod yn "gwbl anghyfrifol" a'i bod yn bwysig cofio "nad gwyddonydd" yw Mr Williams.

Pynciau cysylltiedig