Trefn cyflenwi brechlyn yn y gorllewin yn 'anfoesol'
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg teulu yn Sir Gaerfyrddin wedi disgrifio penderfyniad gan y bwrdd iechyd lleol i ddyrannu cyflenwadau brechlyn i feddygfeydd yn eu tro, yn hytrach na rhannu cyflenwadau yn gyfartal, fel "anfoesol".
Mae Dr Dai Hickman yn feddyg teulu ym Meddygfa Avenue Villa yn Llanelli ac yn dweud eu bod yn gorfod aros tan 25 Ionawr cyn y gallan nhw archebu unrhyw gyflenwadau brechlyn.
Dywed Bwrdd Iechyd Hywel dda eu bod yn gwneud bopeth i gefnogi meddygfeydd drwy'r broses, a'u bod yn obeithol y bydd holl feddygfeydd yr ardal yn cael cyflenwadau o fewn yr amser cynharaf posib.
Mae gan Avenue Villa 10,000 o gleifion, mae tua 400 ohonyn nhw'n dod o fewn y categorïau mwyaf agored i niwed.
Dywed Dr Hickman ei bod wedi bod yn hynod rwystredig gorfod dweud wrth gleifion y bydd yn rhaid iddyn nhw aros, pan fydd meddygfeydd cyfagos eisoes wedi dechrau brechu.
'Rhwystredig iawn'
"Rwy'n cydnabod bod problemau cyflenwi ond rhowch ychydig ddos i bawb - rhowch yr un faint i bawb i ddechrau," meddai Dr Hickman.
"Mae'r busnes hwn o feddygfeydd sy'n mynd yn ei dro bron yn anfoesol oherwydd pam fod fy nghleifion 80 oed i yn llai agored i niwed na'r rhai 80 oed mewn meddygfeydd eraill?
"Nid ydyn nhw ac fe ddylen nhw gael eu trin yr un peth. Mae'r penderfyniad yn benderfyniad gwael yn fy marn i.
"Mae gennym ni'r staff, mae gennym ni'r amser. Fe allen ni ddechrau yfory - pe bai'r brechlyn gennym.
"Rwy'n rhwystredig iawn. Mae'n rhaid i ni ddweud 'sori' er nad oes gennym ni unrhyw reolaeth dros y cyflenwad - ac eto rydyn ni'n cael ein beirniadu.
"Mae llawer o bethau uchelgeisiol yn cael eu dweud gan Lywodraeth Cymru ac mae'n codi disgwyliadau ac yn hollol ddealladwy, mae cleifion yn cysylltu â ni i ofyn 'pryd alla i gael fy mrechu', ond does gennym ni ddim atebion."
Ymateb y Bwrdd Iechyd
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn obeithiol y bydd yr holl feddygfeydd o fewn ardal wedi eu cofrestru ar gyfer y brechlyn ac yn gallu cael cyflenwadau o fewn yr amser cynharaf posib.
"Mae'n bwysig egluro fod yna system gofrestru genedlaethol mewn lle sy'n caniatáu archebion uniongyrchol i feddygfeydd," meddai Jill Paterson, cyfarwyddwr gofal Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor, Hywel Dda.
"Tra nad yw'r system yna o dan ein rheolaeth rydym yn gwneud popeth i gefnogi meddygfeydd drwy'r broses.
"Rydym yn cefnogi'r meddygfeydd rydym yn eu rheoli yn uniongyrchol, oherwydd nad ydynt yn gallu cael mynediad i gyflawniadau system Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn enw eu hunain.
"Rydym hefyd yn falch i ddweud o ddydd Llun 18 Ionawr bydd y meddygfeydd sydd wedi methu trefnu archebion uniongyrchol o'r brechlyn, yn gallu cael mynediad i gyflawniadau sy'n dod i'r bwrdd iechyd.
"Rydym hefyd wedi cael gwybod heddiw y bydd y cyflenwadau o'r brechlyn yn sylweddol uwch na'r hyn gafodd ei grybwyll yn wreiddiol. Ond bydd angen i'r cyflenwadau hynny fynd drwy'r broses o asesu a chadarnhad arferol cyn eu rhoi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2021