Covid yn atal 'Eisteddfod arferol' yn Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Kamal Sharma ar lwyfan Lindop Toyota
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cadarnhad hefyd y byddai'r neges o ewyllys da, sy'n nodweddiadol o'r Eisteddfod, yn parhau.

Does "dim modd cynnal" Eisteddfod Ryngwladol Llangollen "ar ei ffurf arferol" oherwydd cyfyngiadau'r pandemig.

Yn ôl trefnwyr yr ŵyl mae cyfyngiadau ar draws y byd yn gwneud hi'n anodd iawn rhagweld sefyllfa lle all nifer o bobl ddod ynghyd.

Mae'r Eisteddfod felly yn y broses o gynllunio gweithgareddau, perfformiadau a chystadlaethau digidol ac yn gobeithio cyflwyno 'Eisteddfod Hybrid' lle fydd rhai pethau yn digwydd ar-lein - ac eraill ar lwyfan.

Dyma fydd yr ail flwyddyn yn olynol i'r ŵyl beidio digwydd ar ei ffurf draddodiadol a hynny oherwydd Covid 19.

Fel arfer mae'r Eisteddfod yn llwyddo i ddenu rhyw 40,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Cadeirydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ydy Rhys Davies

Ond yn ôl Cadeirydd yr Ŵyl, Dr Rhys Davies, mae hynny'n annhebygol iawn o ddigwydd eleni.

"Y broblem ydy… mae'r sefyllfa ryngwladol yn effeithio ar ein penderfyniad.

"Pobl yn dod yma i ddathlu.. wel dydan ni ddim yn gallu gwneud trefniadau teithiau," meddai.

Ers bron i 75 mlynedd mae'r Eisteddfod wedi ei chynnal yn flynyddol yn y dref yn Sir Ddinbych, ond mae Covid wedi golygu newidiadau mawr.

"Mae'n rhaid inni neud rhywbeth ac mae pobl angen gwybod bod ni dal yma. Ond teg dweud bod yr opsiwn o'r Eisteddfod arferol... does dim posib 'neud o," meddai Dr Davies.

Y llynedd, fe dderbyniodd yr Eisteddfod Ryngwladol gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ac maen nhw'n dweud y bydd modd i beth o'r arian yna eu cynnal am y tro.

Disgrifiad o’r llun,

Llinynnau soniarus Ensemble Guzheng yn perfformio yn Llangollen yn 2018

Gyda'r opsiwn o Eisteddfod draddodiadol bellach yn angof mae'r trefnwyr yn gobeithio cyflwyno Eisteddfod 'hybrid', fydd yn cyfuno gweithgareddau ar-lein ac ar lwyfan.

"Dwi ddim yn gwybod be 'da ni am wneud ond dwi'n siŵr gallwn ni 'neud rhywbeth. Mae'r Urdd a'r Genedlaethol wedi 'neud lot felly dyma'r dyfodol achos mae Covid wedi newid popeth."

Fydd corau'r byd felly ddim yn cael dod i'r dref yn y gogledd-ddwyrain, a hynny yn dristwch i Gyn-Gyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl ac arweinydd Côr CF1, Eilir Owen Griffiths.

"Mae o'n siom mawr nad ydy'r ŵyl yn gallu digwydd ond mae'n bwysig fod y penderfyniad wedi ei wneud," meddai.

"Heb os, i fi yn bersonol fel arweinydd, pan 'da chi'n meddwl amdano yn wirioneddol, mae'n colli'r cyswllt personol yna."

Gydag Eisteddfodau eraill bellach wedi arwain y ffordd wrth gyflwyno rhaglenni a chystadlaethau rhithiol fel Eisteddfod T y llynedd mae trefnwyr yn gobeithio gallu efelychu'r llwyddiant yna a dychwelyd yn gryfach yn 2022 er mwyn dathlu 75 mlynedd o'r Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen.