Diwydiant celfyddydau Cymru i 'golli pobl dalentog'

  • Cyhoeddwyd
Y cyrn gwladFfynhonnell y llun, Ffotonant

Gallai llawer o berfformwyr ac artistiaid ifanc gael eu colli i'r diwydiant celfyddydau os yw Llywodraeth Cymru'n "anwybyddu" y sector ystod y pandemig coronafeirws.

Dyna'r rhybudd gan rai o fewn y diwydiant, gyda phryder y bydd llefydd fel theatrau'n ei chael hi'n anodd ailagor hyd yn oed pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio.

Dywedodd AS Plaid Cymru, Sian Gwenllian fod perygl y gallai'r diwydiant "golli pobl dalentog" wrth i'r cyfnod cloi barhau os nad oedd rhagor o gefnogaeth ariannol yn cael ei gynnig.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi darparu £18m er mwyn helpu'r sector yn ystod yr argyfwng, gan gynnwys arian i wyliau fel yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

'Perygl o ddim diwydiant o gwbl'

Gyda'r cyfyngiadau yn golygu bod canolfannau a lleoliadau celfyddydol yn parhau ar gau, mae nifer o sefydliadau o fewn y diwydiant eisoes wedi rhybuddio am effaith y wasgfa ariannol.

Ond dywedodd Ms Gwenllian, llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant, y dylai'r sector gael ei weld fel un allai "helpu Llywodraeth Cymru i gyfleu ei negeseuon allweddol" yn hytrach na bod yn fwrn ariannol.

"Mae sîn gelfyddydol Cymru yn wahanol iawn i un Lloegr, a hoffwn weld Cymru yn arwain y ffordd ac yn defnyddio'n cryfderau a'n diwydiannau creadigol i'n helpu i ddod trwy effaith negyddol cyfnod maith o gloi," meddai.

Ychwanegodd: "Os na wnawn roi'r celfyddydau creadigol wrth galon mentrau, a rhoi rhan iddynt chwarae yn ystod y pandemig, mae arna'i ofn ein bod mewn perygl o golli pobl dalentog, ac y mae hyn yn rhy bwysig i'w anwybyddu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn un o'r gwyliau sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol

Yn ôl cyfarwyddwr artistig Gŵyl Gorawl Ryngwladol Cymru, Eilir Owen Griffiths, mae'r pandemig wedi golygu "ansicrwydd" i berfformwyr ifanc ac mae perygl y gallen nhw gael eu colli i'r diwydiant os nad oes cefnogaeth yn cael ei gynnig.

"Po hwyaf y bydd y cyfyngiadau ar waith, mwyaf yw'r perygl o beidio â chael diwydiant celfyddydau o gwbl ar ddiwedd y pandemig," meddai Mr Griffiths, sydd hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol y Drindod.

"Hyd yn oed os bydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio i ganiatáu i bobl ymgynnull, fydd theatrau ddim yn gallu agor yn syth oherwydd yr oedi cyn i'r cynnwys ddechrau ymddangos eto."

Ychwanegodd Geinor Styles, cyfarwyddwr artistig Theatr na nÓg, y dylai'r celfyddydau gael "lle wrth y bwrdd" yn yr ymateb i'r pandemig.

"Gwyddom pa mor rymus yw adrodd storïau, a gallai diwydiant y celfyddydau chwarae rhan wirioneddol bwysig i helpu pobl i ddeall beth sy'n digwydd a chyfleu'r neges y gallwn ddod trwy hyn gyda'n gilydd," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod rôl bwysig y celfyddydau" a'u bod eisoes wedi darparu £18m ar gyfer sectorau diwylliannol, creadigol a chwaraeon.

"Mae hyn yn cynnwys Cronfa Gwytnwch y Celfyddydau, sy'n cael ei arwain gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a chyllid cymorth ar frys i'n sefydliadau lleiaf, a mwyaf bregus," meddai.

"Rydyn ni hefyd wedi darparu dros £800,000 er mwyn cefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i barhau eu busnesau a pharatoi ar gyfer digwyddiadau'r dyfodol."