Bachgen, 17, wedi ei ladd yn 'ddidrugaredd'
- Cyhoeddwyd
Cafodd bachgen 17 oed ei lofruddio mewn "ymosodiad cyflym, treisgar a didrugaredd" yn Y Barri, yn ôl yr erlyniad mewn achos llys.
Clywodd y rheithgor bod Harry Baker, o Gaerdydd, wedi ei drywanu nifer o weithiau ac wedi ei ddadwisgo pan gafwyd hyd i'w gorff yn Nociau'r Barri yn Awst 2019.
Ffrae dros gyffuriau oedd wrth wraidd y digwyddiad.
Mae saith o bobl, chwe dyn ac un bachgen, yn gwadu ei lofruddiaeth.
'Marw ar ben ei hun'
Ar ddechrau achos yn Llys y Goron Casnewydd, dywedodd yr erlynydd Paul Lewis QC bod y diffynyddion mewn "gang milain" oedd yn cytuno y "dylai Harry Baker farw, neu o leiaf dioddef niwed difrifol".
Roedd y grŵp wedi ymosod ar Harry Baker ar stryd yn Y Barri, meddai Mr Lewis, cyn iddyn nhw ei ddilyn am filltir i'r safle yn y dociau.
Roedd Harry Baker wedi ceisio cuddio mewn iard oedd dan glo, ond clywodd y llys bod pump o'r diffynyddion wedi ei ganfod yna.
Fe ddioddefodd "ymosodiad cyflym, treisgar a didrugaredd" cyn i'r diffynyddion ddianc o'r safle, gan adael Harry Baker i "farw ar ben ei hun".
Clywodd y llys mai cyffuriau oedd wedi achosi'r ffraeo, a bod Harry Baker un ai wedi twyllo'r diffynyddion, neu wedi dechrau gwerthu cyffuriau ar eu "tir" nhw.
Mae Leon Clifford, 23, Raymond Thompson, 48, Lewis Evans, 62, Ryan Palmer, 34, Peter McCarthy, 37, oll o'r Barri, Leon Symons, 22 o Drelai yng Nghaerdydd a bachgen 17 oed nad oes modd ei enwi yn gwadu llofruddiaeth.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2019