Dyn o Fangor yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Dean Harry SkillinFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dean Skillin wedi digwyddiad y tu allan i Westy'r Waverley, Bangor

Mae dyn 24 oed wedi pledio'n ddieuog i lofruddio dyn y tu allan i westy ym Mangor.

Bu farw Dean Skillin, 20 oed o Gaernarfon, yn dilyn adroddiadau o gythrwfl y tu allan i Westy'r Waverley ar Stryd yr Orsaf, Bangor nos Sadwrn, 19 Medi.

Fe wnaeth Brandon Sillence, o Doronnen ym Mangor, wadu llofruddiaeth ond wedi cyfadde' dynladdiad mewn gwrandawiad drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron yr Wyddgrug.

Cafodd dyddiad yr achos llys llawn ei osod ar gyfer 22 Mawrth yn Llys y Goron Caernarfon.

Pynciau cysylltiedig