Y gwirfoddolwyr tu ôl i lwyddiant cwrs Cymraeg Duolingo
- Cyhoeddwyd
Dysgwyr Cymraeg Duolingo yn cymryd rhan mewn sesiwn sgwrsio ar-lein gyda Richard Morse, sy'n draddodiadol yn cynnwys trafod eu hoffter o bannas!
Mae'n bum mlynedd ers lansio'r cwrs Cymraeg ar yr ap dysgu ieithoedd Duolingo, diolch i griw o wirfoddolwyr brwd wnaeth bwyso ar y cwmni a helpu i greu'r cwrs mae 1.62m o bobl wedi cofrestru arno ers 2016.
Gyda chynnydd aruthrol dros y byd mewn dysgu iaith drwy apiau yn ystod y pandemig - a'r DU, yn annisgwyl, yn arwain y cynnydd - cyhoeddodd Duolingo mai'r Gymraeg yw'r iaith wnaeth dyfu gyflymaf ar yr ap yn y DU yn 2020.
Gwelodd nifer y dysgwyr Cymraeg newydd ar yr ap gynnydd o 44% yn 2020, uwchlaw Hindi, Japanaeg a Ffrangeg.
Mae 474 o filoedd wrthi'n dysgu ar yr ap ar hyn o bryd.
1.62 miliwnWedi cofrestru gyda'r cwrs Cymraeg ers y dechrau.
474,000Yn dysgu Cymraeg drwy'r ap ar hyn o bryd.
44%yw canran y cynnydd mewn dysgwyr Cymraeg newydd o'r DU ar y cwrs yn 2020 - uwch na Hindi, Japanaeg a Ffrangeg.
Dim lle i fwy o ieithoedd
Un o'r rhai oedd yn allweddol yn y galw am gwrs Cymraeg ar Duolingo yw'r tiwtor iaith Richard Morse.
"Roedd tri ohonon ni yn bennaf yn yr ymgyrch; finne, Kathy Dobbin o Lundain a'r diweddar Andrew Manston," meddai Richard sy'n parhau i ysgrifennu a chywiro'r cwrs yn ogystal â chynnal sesiynau sgwrsio i ddysgwyr o bedwar ban byd hefyd.
"Tasen ni ddim wedi ymgyrchu falle fyddai Cymraeg ddim wedi ymddangos. Fydde fe ddim wedi digwydd mor fuan beth bynnag.
![Richard a'i neges yn 2015 ar fforwm Duolingo](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/12735/production/_116637557_untitled-1.jpg)
Neges gan Richard Morse ar fforwm Duolingo yn 2015 yn gofyn am gwrs Cymraeg
"Yn ddiweddar mae cwrs Gaeleg yr Alban wedi ymddangos, felly efallai y bydde fe, ond efallai ddim, ti byth yn gwybod.
"Mae cymaint o alwadau ar y cwmni i wneud cyrsiau iaith i gannoedd a channoedd o ieithoedd ac erbyn hyn maen nhw wedi penderfynu does dim digon o le gyda nhw i gynnal mwy o ieithoedd."
Mae 40% o'r rhai sydd wedi cofrestru yn dod o'r DU daw'r gweddill o bedwar ban byd gan gynnwys un yn Antarctica, yn ôl y cwmni.
Cyfrannu at ysgrifennu'r cwrs
Pan lansiwyd y cwrs yn 2016, dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi gwneud hynny am fod "lot o alw" gan griw "lleisiol iawn" a "threfnus" oedd wedi "cyflwyno dadleuon da iawn dros ei datblygu hi".
"Roedd nifer o bobl wedi cyfrannu at ysgrifennu'r cwrs yn ychwanegol at y prif gyfranwyr," meddai Richard.
"Yn wreiddiol roedd cynnwys y cwrs wedi ei seilio ar werslyfrau Cymraeg i Oedolion CBAC, gyda ambell i estyniad, cyn dyfodiad y Ganolfan Genedlaethol, ac rydyn ni'n gweithio ar addasiadau. "
Duolingo ei hun sy'n creu'r heriau dros eu cyrsiau i gyd meddai Richard gan egluro mai creu gêm allan o'r dysgu yw athroniaeth yr ap.
![sesiwn sgwrsio Duolingo](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0F2C/production/_116648830_dosbarthduolingo.jpg)
Un o'r sesiynau sgwrsio Cymraeg dros y we
Yn ystod y cyfnodau clo mae'r sesiynau sgwrsio sy'n cael eu trefnu drwy fforymau Duolingo a'u cynnal gan wirfoddolwyr, wedi tyfu.
"Mae'n rhaid i fi gyfyngu y nifer bob wythnos," meddai Richard. "Roedd 34 gyda fi wythnos diwetha' o Gymru, Lloegr, Canada, Unol Daleithiau, Yr Alban, Yr Iseldiroedd, Awstralia (roedd hi'n hanner nos yno) a Costa Rica (7am)!"
Mae grŵp Facebook hefyd yn cael ei weinyddu gan wirfoddolwyr.
Yn ogystal â Richard a Kathy Dobbin mae gwirfoddolwyr eraill fel Chris Chetwynd, Ellis Vaughan, Jonathan Perry a Helen Morfydd naill ai'n helpu i olygu a chywiro'r cwrs neu gyfrannu at fforymau a threfnu cyfarfodydd a digwyddiadau.
Ysgolion
![Plentyn yn defnyddio Duolingo](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/ACE7/production/_116636244_laptopuser.jpg)
Yn ogystal ag oedolion o bedwar ban byd yn dysgu eu hunain ac mewn dosbarthiadau, mae nifer o blant mewn dosbarthiadau Cymraeg ail-iaith mewn ysgolion yn defnyddio'r Duolingo Schools hefyd meddai Richard Morse.
Yn 2020 roedd 22% o ddysgwyr newydd yr ap yn dweud mai'r ysgol oedd eu prif gymhelliad dros ddysgu. Dewisodd 17% y teulu fel eu prif reswm wedi ei ddilyn gan diwylliant (15%), yr ymennydd (15%), gwaith (9%) a theithio (8%).
'Hanner ffordd i'r miliwn!'
Un o ganfyddiadau Adroddiad Iaith Duolingo yn y DU yn 2020 oedd fod dysgwyr y Gymraeg ymysg y rhai mwyaf ymroddedig yn y byd wrth fesur yn ôl hyd eu cyfnodau dysgu dyddiol a'r nifer fwyaf o wersi a gyflawnwyd.
Gallai hyn fod yn newyddion da i Lywodraeth Cymru a lansiodd ei hymgyrch i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yr un flwyddyn ag y lansiwyd cwrs Cymraeg Duolingo.
A rŵan, ar Ddydd Santes Dwynwen 2021, mae Duolingo yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyrraedd y nod honno.
"Rydyn ni'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Ganolfan Iaith Genedlaethol i herio pobl yng Nghymru i gyrraedd hanner miliwn o ddysgwyr ar Duolingo erbyn diwedd yr wythnos," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
"Rydyn ni ar 474k ar hyn o bryd. Hanner ffordd i'r miliwn!"
![Logo Duolingo](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3CD5/production/_116637551_welshvalentine-pinkfix-vcr.png)
Hefyd o ddiddordeb: