Marwolaeth Mohamud Hassan: Protestio'n parhau am ail ddiwrnod
- Cyhoeddwyd
Mae protestiadau'n parhau am ail ddiwrnod yn dilyn marwolaeth dyn 24 oed, oriau ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r ddalfa yng Nghaerdydd.
Bu farw Mohamud Mohammed Hassan dydd Sadwrn ar ôl cael ei ryddhau gan yr heddlu heb gyhuddiad.
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi cadarnhau y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad llawn i amgylchiadau'r farwolaeth.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi rhoi pob fideo sydd ganddynt i'r IOPC ac nad ydyn nhw'n gallu rhyddhau unrhyw fideo tra bo'r ymchwiliad yn parhau.
Torf o 200
Roedd torf o tua 200 o brotestwyr wedi casglu y tu allan i orsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd brynhawn Mercher ac fe gafodd y ffordd ei chau am gyfnod.
Daw wedi i gannoedd o bobl orymdeithio o ganol y brifddinas i'r orsaf heddlu yn y bae er mwyn cynnal protest ddydd Mawrth.
Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, dyw'r ymchwiliadau cynnar ddim yn awgrymu bod unrhyw gamymddwyn neu rym eithafol wedi'i ddefnyddio yn erbyn Mr Hassan.
Ond yn ôl ei deulu roedd ganddo nifer o anafiadau a chleisiau wedi iddo gael ei ryddhau gan y llu.
Cafodd yr heddlu eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans i eiddo aml-annedd ar Heol Casnewydd yn ardal Y Rhath o'r brifddinas toc wedi 22:30 nos Sadwrn.
Y noson cyn hynny roedd Mr Hassan wedi cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd yn dilyn adroddiadau o gythrwfl yn yr un cyfeiriad.
Cafodd ei arestio ar amheuaeth o darfu ar yr heddwch, a'i ryddhau'n ddiweddarach heb gyhuddiad - cam sy'n arferol mewn achosion o'r fath, meddai'r heddlu.
Cafodd Mr Hassan ei ryddhau tua 08:30 fore Sadwrn.
Dywedodd Heddlu De Cymru mewn datganiad ddydd Mercher: "Rydym yn meddwl ac yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Mr Hassan ac yn cydnabod yr effaith mae ei farwolaeth wedi'i gael ar y gymuned ehangach.
"Rydyn ni'n cydymffurfio yn llawn ag ymchwiliad yr IOPC ac wedi darparu'r holl wybodaeth a'r eitemau maen nhw wedi gofyn amdanynt."
'Rhaid aros am ymchwiliad'
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd y de wedi annog pobl i fod yn "amyneddgar".
Dywedodd Alun Michael: "Hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad i deulu a ffrindiau Mr Hassan ac i'r aelodau o'r gymuned sydd wedi eu heffeithio gan ei farwolaeth a digwyddiadau'r penwythnos.
"Rydyn ni nawr yn gwybod nad oes anaf corfforol i esbonio achos ei farwolaeth, ac mae'n bwysig ein bod ni'n aros am ganfyddiadau ymchwiliad annibynnol cyn dod i gasgliadau am yr hyn ddigwyddodd."
Mae'r ymgyrchwyr wedi dweud y bydd y protestiadau'n parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2021