Myfyrwyr Cymru'n streicio dros renti prifysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o fyfyrwyr ar draws Cymru yn bwriadu cynnal streic rhent yn erbyn eu prifysgolion.
Yn ôl trefnwyr yr ymgyrchoedd ym mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor, dyw myfyrwyr ddim wedi cael yr hyn a dalwyd amdano o ran mynediad i'w hystafelloedd, a dyw cynigion eu prifysgolion ddim yn ddigon da.
Mae'r protestio ychydig yn dawelach na'r arfer wrth i'r ymgyrchu droi at y we, ond ni fydd hynny'n tawelu'r neges medd y myfyrwyr.
Mae myfyrwyr ar draws Cymru wedi bod yn galw ar eu prifysgolion i gynnig ad-daliadau am eu llety - gan ddweud nad ydyn nhw wedi treulio gymaint o amser yn eu stafelloedd oherwydd cyfyngiadau Covid-19.
Mae prifysgolion yn dweud mai ymateb i gyngor y llywodraeth oedden nhw drwy ofyn wrth fyfyrwyr i beidio a dychwelyd i gampysau, ac mae rhai prifysgolion wedi cynnig ad-daliadau - ond eraill heb.
'Heb fod yn eu hystafell ers mis Medi'
Yn sgil hynny mae rhai myfyrwyr wedi penderfynu mynd cam ymhellach - gyda streiciau rhent yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Abertawe a Bangor.
Cynllun y myfyrwyr yw canslo eu debyd uniongyrchol, gan ddal miloedd o bunnau yn ôl o'u prifysgolion.
Er bod Prifysgol Bangor wedi cynnig ad-daliad o 10% i'w myfyrwyr nhw, dyw ymgyrchwyr fel Rhodri Prysor ddim yn credu bod hynny'n ddigon.
"Mae 'na lawer, llawer o fyfyrwyr sydd heb fod yn eu hystafell o gwbl ers mis Medi," meddai.
"Mae hynny'n fisoedd heb fod yn eu hystafelloedd, heb eu defnyddio, a dydy 10% ddim yn cyfro hynny - dylen nhw ddim gorfod talu.
"Er bod y brifysgol wedi addo y byddai popeth yn iawn mwy neu lai - popeth yn normal - dydy hynny heb ddigwydd."
O siarad gyda'r trefnwyr yn y tair dinas, mae dros 300 eisoes wedi dweud y byddan nhw'n ymgyrchu - gyda'r ffigwr hwnnw yn cynyddu'n ddyddiol.
Bore dydd Iau fe ddywedodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant y bydd yn cynnig ad-daliad ffioedd llety i fyfyrwyr nad ydynt wedi dychwelyd i lety o eiddo'r brifysgol tra bod addysgu yn cael ei gyflwyno ar-lein yn unig.Dywedodd Prifysgol De Cymru hefyd y byddai 'gwyliau taliadau' ar ffioedd llety myfyrwyr o 4 Ionawr hyd at 12 Chwefror, ac fe fydd ad-daliad yn cael ei ddarparu am y cyfnod yma i'r myfyrwyr sydd wedi talu am y flwyddyn yn llawn yn barod.
Ddydd Mercher fe gadarnhaodd Prifysgol Caerdydd y byddai myfyrwyr yn eu llety nhw, sydd ddim wedi dychwelyd, yn cael ad-daliad - a hynny am y cyfnod nad oes modd dychwelyd.
Ond ni fydd yr ad-daliad hwnnw yn dod tan fis Ebrill.
Dywedodd Prifysgol Abertawe y byddan nhw hefyd yn cynnig ad-daliad i'r rhai sydd ddim wedi gallu dod yn ôl i'w llety yn y brifysgol.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud y gall fyfyrwyr wneud cais am ad-daliad 100% o ffioedd am bob wythnos nad ydynt yn defnyddio eu llety.
'Rhy hwyr'
Ond yn ôl ymgyrchwyr yng Nghaerdydd ac Abertawe, dyw'r cynigion yma ddim yn ddigon da.
Dywedodd Ibrahim Khan o Gaerdydd y dylid cynnig ad-daliad yn syth.
"Mae'n rhy hwyr. Dyw e ddim yn delio gyda'r broblem o bwysau ariannol sydd ar fyfyrwyr nawr," meddai.
"Fe ddylai'r brifysgol roi ad-daliad i ni nawr yn hytrach nag yn ystod y taliadau mis Ebrill."
Ond mae 'na oblygiadau o ymgyrchu trwy beidio talu rhent.
Dywedodd Siôn Fôn, sy'n arbenigo mewn cyfraith landlordiaid a thenantiaid gyda chyfreithwyr Darwin Gray: "Faswn i'n eu hannog nhw i drafod o gyda'u teulu ac undeb myfyrwyr cyn cymryd unrhyw gamau rhag ofn ei fod o'n cael unrhyw oblygiadau yn y dyfodol iddyn nhw.
"Faswn i'n disgwyl fod 'na achos yn medru dod yn eitha' hawdd am fod rhywun ddim yn talu rhent.
"Fysa'r myfyrwyr efo achos yn erbyn y brifysgol? Efallai.
"Yn y pendraw, os ydy'r brifysgol yn cymryd camau cyfreithiol, mae'r achos yn mynd i'r llys a bod y myfyrwyr yn colli, a dal ddim yn talu'r rhent, mi fasai hynny yn dangos ar sgôr credyd neu pan yn trio am forgais neu gerdyn credyd."
Beth ydy ymateb y prifysgolion?
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd mai rhesymau technegol oedd yn golygu bod yn rhaid aros tan fis Ebrill cyn cynnig ad-daliad.
Dywedodd Prifysgol Bangor nad oedden nhw am ychwanegu at y cyhoeddiad y byddan nhw'n cynnig ad-daliad o 10%.
Mae Prifysgol Abertawe yn dweud na fyddan nhw'n anfon bil i fyfyrwyr sydd â llety prifysgol tan fis Mai er mwyn gallu edrych ar achosion.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod hi ond yn deg bod myfyrwyr yn gymwys i dderbyn ad-daliad am y cyfnod lle bo'u cwrs ar-lein yn unig, ac maen nhw'n croesawu camau gan brifysgolion i ddelio â hyn.
Ychwanegodd fod y llywodraeth yn ystyried sut y gallan nhw gynnig cymorth pellach i fyfyrwyr a phrifysgolion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2021