Gofyn am gael chwilio am £210m mewn tomen sbwriel

  • Cyhoeddwyd
James HowellsFfynhonnell y llun, James Howells
Disgrifiad o’r llun,

Dywed James Howells y byddai'n rhoi chwarter yr arian i drigolion Casnewydd.

Mae dyn sy'n dweud iddo waredu darn o gyfrifiadur gyda manylion bitcoin arno werth tua £210m mewn safle tirlenwi yn apelio ar y cyngor lleol i adael iddo archwilio'r safle.

Dywed James Howells fod yna 7,500 bitcoin ar y cyfrifiadur wnaeth o waredu ar gam yng Nghasnewydd yn 2013.

Bitcoin yw'r arian dychmygol sy'n cael ei ddefnyddio yn y byd cyfrifiadurol, ac mae modd ei gyfnewid am nwyddau ar-lein.

Dywed Mr Howells ei fod yn fodlon rhoi 25% o werth yr arian - tua £52.5m - i drigolion y ddinas pe bai'n dod o hyd i'r cyfrifiadur.

Dywed Cyngor Casnewydd nad yw'r amodau trwyddedu yn caniatáu i bobl archwilio'r safle tirlenwi.

Pan gafodd y bitcoins eu prynu gan Mr Howells yn 2009, doedden nhw'n werth y nesaf peth i ddim.

Dywedodd iddo eu cadw ar y cyfrifiadur, ond iddo daflu hwnnw yn 2013 ar ôl iddo dywallt diod arno ar ddamwain.

Adeg hynny, meddai roedd y bitcoins, werth tua £4.6m. Erbyn hyn byddant wedi cynyddu i £210m.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y cyngor nad yw'n bosib archwilio'r safle yng Nghasnewydd

Dywedodd ei fod wedi gofyn sawl gwaith am ganiatâd gan y cyngor sir i chwilio'r safle, ond heb lwyddiant.

Ychwanegodd ei fod yn fodlon rhoi 25% o'r gwerth i'r cyngor.

"Yn ôl ffigyrau heddiw byddai hynny'n golygu tua £52.5m a byddwn am roi hynny ar gyfer dioddefwyr Covid-19 yng Nghasnewydd," meddai.

Mae'n dweud y byddai'n cyflogi tîm proffesiynol i helpu yn y gwaith o ddod o hyd i'r cyfrifiadur.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae yna nifer o geisiadau wedi eu gwneud ers 2013 am y posibilrwydd o geisio dod o hyd i gyfrifiadur sy'n cynnwys gwybodaeth bitcoins.

"Mae'r cyngor wedi dweud wrth Mr Howells ar sawl achlysur, nad yw archwilio'n bosib o dan amodau'r drwydded, ac y byddai archwiliad yn cael effaith amgylcheddol mawr ar yr ardal gyfagos.

"Byddai'r gost o gloddio ac yna adfer y safle tirlenwi yn gost o filiynau o bunnoedd - heb unrhyw sicrwydd o ddod o hyd i'r teclyn, na sicrwydd ei fod dal yn gweithio."