Blwyddyn newydd... ond yr un hen fi
- Cyhoeddwyd
Ar ddechrau blwyddyn newydd fel hyn, faint ohonon ni sydd wedi dechrau ar Dry January, Veganuary neu raglen ymarfer corff newydd... ac wedi cracio o fewn dim?!
Mae Fflur Evans yn yr un cwch â chi... ond gyda'r byd fel ag y mae o, mae hi'n holi ydi hi wir ots mewn gwirionedd?!
Ma' nhw'n dweud ei fod yn cymryd tair wythnos i ffurfio habit newydd, a gan ein bod ni 'nawr 'di cyrraedd trydedd wythnos lawn 2021, ma' rhaid i fi gyfaddef rhywbeth i chi, gyfeillion.
Ar ddechrau'r mis, nes i osod tair adduned blwyddyn newydd i'n hunan, ac erbyn hyn, dwi 'di torri bob un ohonyn nhw. Ie wir, pob un.
'Falle tasen i 'di sticio 'da nhw am wythnos fach arall, fydden i wir 'di gallu datgan ei fod hi'n 'flwyddyn newydd, fi newydd', ond na - dwi back to square one.
Herio'n hunan
'Wnaeth popeth ddechrau yn iawn, cofiwch chi - yn ystod wythnos gynta' Ionawr, o'n i'n feistres yr addunedau! Ma' rhywbeth am ddechrau'r flwyddyn newydd sy'n rhoi fwy o egni i rywun (wel, wedi i chi atgyfodi ar ôl hangover Nos Galan, ta beth) - a mi o'n i'n barod i herio'n hunan.
Fy adduned gynta' oedd i 'neud o leia' pedwar sesiwn yoga bob wythnos. Ar ôl ffeindio menyw 'da llais tawel, hyfryd oedd yn neud cwrs ar YouTube ar gyfer novices llwyr, o'n i'n hynod obeithiol.
Erbyn y trydydd sesiwn, o'n i'n berson newydd, yn hollol zen, ac wedi meistroli'r downward dog, y cobra a'r cow pose yn barod. Namaste, wir! Roedd hi am fod yn fis llwyddiannus.
Adduned rhif dau oedd i fynd mas i redeg o leia' tair gwaith yr wythnos. Yn ffodus, fuodd hi ddigon sych ar ddechrau'r mis, felly dyma fi'n mentro mas yn fy siaced high-vis newydd sbon a rhedeg fel ffŵl er mwyn trio curo amser pawb o'n i'n eu dilyn ar Strava (un gystadleuol fues i erioed).
Mas â fi, ar ôl cau lawr fy laptop am y noson, i garlamu rownd Parc y Rhath, yn meddwl bo' fi'n rhyw fath o Mo Farah in the making!
Mewn gwirionedd, o'n i lot arafach na'r Strava-holics, ond hei - dim ots - nid cyflymder oedd yn bwysig, ond dyfalbarhad.
Fy nhrydedd adduned oedd i fwyta'n fwy iach - o'dd hwn yn cyd-fynd gyda'r rhedeg mewn ffordd, achos drwy fwyta llai o rwtsh, fydden i fwy ffit, a'n gallu rhedeg yn GYNT ac yn BELLACH.
Er mwyn sicrhau bo' fi ddim yn cael fy nhemtio i brynu pecyn o jaffa cakes a'u claddu nhw i gyd mewn un noson, 'nes i lunio cynllun bwyd, gan gynnwys snacs iachus yn ystod y dydd.
O'n i hefyd yn joio teimlo'n smug bob tro bysen i'n gweld fy nghymdogion yn archebu takeaways - "Ych a fi, nagyn nhw'n gwybod faint o fraster sy' mewn chicken chow mein?"
Oes wir ots?
Ond chi'n gwbo' be, bois? Erbyn Ionawr y 10fed, o'n i jyst methu bod yn bothered rhagor.
Sai'n siŵr os oedd e achos bod straeon newyddion yr wythnos flaenorol 'di bod yn eithaf boncyrs neu be', ond o'dd y syniad o ddechrau'r dydd gyda sesiwn o'r enw 'Ignite' neu 'Aligning your Chakras' jyst ddim yn apelio rhagor, a 'na gyd o'n i eisiau 'neud o'dd cwtsho lan ar y soffa a chladdu paced o chocolate digestives.
A cyn bo' fi'n dechrau teimlo'n euog neu deimlo fel methiant, nes i ofyn cwestiwn pwysig iawn i fi'n hun: Oes wir ots?
S'dim angen i fi 'weud wrthych chi bod y byd mewn stad uffernol ar hyn o bryd, ac o'dd y ffaith bo' fi 'di bwyta chwech french fancy mewn awr i weld yn eitha' dibwys o ystyried y ffaith ein bod ni'n byw mewn pandemig a'n bod ni 'di wynebu'r dirwasgiad gwaethaf mewn 300 mlynedd, a'n bod ni dal methu mynd i'r pyb.
Felly, os ydych chi 'di cyrraedd ganol mis Ionawr a'n teimlo'n euog achos ar ôl torri'ch addewidion blwyddyn newydd yn barod - peidiwch! S'dim pwynt rhoi pwysau arnoch chi'ch hunain i newid neu i gyflawni rhyw dasg anferthol os nag y'ch chi wir eisiau 'neud!
Dim ond dechrau blwyddyn newydd yw hi wedi'r cyfan - daw un arall rownd blwyddyn nesa', a'r flwyddyn wedyn - rhowch frêc i'ch hunan a chanolbwyntiwch ar oroesi yn ystod y lockdown 'ma yn lle.
S'dim ots os nag y'ch chi'n rhedeg 20km yr wythnos - ma' mynd mas i gerdded yn gallu bod yr un mor llesol! A cyn belled bo' chi ddim yn ei gorwneud hi'n llwyr gyda'r takeaways i'r pwynt bo' chi'n dechrau edrych fel sleisen o pizza, mae e'n hollol iawn i chi drîto'ch hunain!
Ond, i chi sy'n dal ati gyda'r addunedau - rhowch gymeradwyaeth i'ch hunain. Dwi wir yn eich edmygu chi (ond sai'n cenfigennu - fi lot hapusach yn gorwedd ar y soffa yn scoffio crisps ac yn gwylio omnibws Pobol y Cwm).
Hefyd o ddiddordeb: