'Effaith fawr' Covid-19 ar ymgyrch annibyniaeth i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Rali Methyr Tudful
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna dair rali fawr o blaid annibyniaeth y llynedd - gan gynnwys y drydedd ym Merthyr Tudful ym mis Medi

Mae Covid-19 wedi cael "effaith fawr" ar yr ymgyrch i greu Cymru annibynnol, a allai arwain at fwy o bobl yn credu mai hunanlywodraeth yw'r ffordd ymlaen, yn ôl arbenigwr blaenllaw.

Ond mae 'na gefnogaeth hefyd i ddiddymu'r Senedd a chael gwared ar ddatganoli yn gyfan gwbl.

Mae un arolwg barn yn awgrymu bod cefnogaeth i'r ddau ymgyrch, sydd ar ddau begwn gwahanol iawn, mwy neu lai yn gyfartal.

"Dwi'n meddwl bod Covid, ac yn arbennig y ffordd mae sawl llywodraeth wedi delio 'efo Covid, wedi cael effaith fawr," meddai'r Athro Roger Awan-Scully o Brifysgol Caerdydd wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C.

"Mae llawer mwy o bobl yn meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi delio gyda'r broblem mewn ffordd effeithiol. Dwi'n meddwl bydd yn helpu llawer o bobl i efallai meddwl, falle bydd yn bosibl i Gymru i gael hunanlywodraeth."

Datganoli - proses nid digwyddiad

"Bore da, ac mae'n fore da iawn yng Nghymru."

Geiriau enwog Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Ron Davies, bore wedi refferendwm 1997, pan bleidleisiodd Cymru am y tro cyntaf dros ddatganoli.

Aeth ymlaen wedyn i ddisgrifio datganoli fel proses yn hytrach nag un digwyddiad.

A hyd heddiw, mae'r broses yn parhau. Eleni, fe newidiodd y Senedd ei henw'n swyddogol i Senedd Cymru er mwyn adlewyrchu ei statws fel sefydliad deddfwriaethol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cyn y pandemig, fe fu gorymdeithiau yn galw am annibyniaeth, ac er bod hynny ar stop am y tro, mae mudiad YesCymru yn dweud bod ei aelodaeth wedi treblu yn ystod y pum mis diwetha'.

"Dwi'n hollol hyderus, yn fwy hyderus nag o'n i erioed, y byddai Cymru'n wlad lwyddiannus ac yn lot hapusach fel gwlad annibynnol," meddai Siôn Jobbins, cadeirydd YesCymru.

"Does dim digon o bwerau [gyda Senedd Cymru], gallai fel unrhyw Senedd arall, fenthyg arian er mwyn buddsoddi nawr i gael swyddi da yng Nghymru.

"Boed e mewn datblygu ynni adnewyddol, boed e i adeiladu rheilffordd rhwng y de a'r gogledd... mae Llywodraeth San Steffan yn stopio Cymru benthyg yr arian o unrhyw fath o werth. Edrychwch chi ar y lagŵn yn Abertawe.

"Mae'r syniad bod gan Gymru ryw rhan bwysig o'r Deyrnas Unedig ddim yn wir."

Disgrifiad,

Yr Athro Richard Wyn Jones: 'Yr Alban a Gogledd Iwerddon ymhell o flaen Cymru' ar y llwybr i annibyniaeth bosib

Mewn arolwg barn ym mis Mehefin, fe ddywedodd 25% o bobl y byddan nhw o blaid annibyniaeth. Ond yn yr un arolwg gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, dywedodd 25% hefyd y byddan nhw'n pleidleisio i ddiddymu'r Senedd yn gyfan gwbl.

Mewn arolwg barn arall gan YouGov ar ran YesCymru, dywedodd 32% y byddan nhw'n pleidleisio dros annibyniaeth pe bai refferendwm fory.

Ymgyrchu i ddiddymu datganoli

Mae'r aelod o'r Senedd ym Mae Caerdydd, Gareth Bennett, yn ymgyrchu i ddiddymu'r Senedd, ar ôl gadael plaid UKIP.

Er bod Cymru wedi pleidleisio yn 1997 a 2011 am fwy o bwerau, mae'n dweud bod hi'n bryd edrych eto ar hynny.

"Gall y ddwy refferendwm ddim cael eu diystyru, [ond] dwi ddim yn meddwl bod y refferendwm yn 2011 yn berthnasol iawn achos doedd yr opsiwn ddim yna i bobl sydd ddim eisiau i'r Senedd fodoli," meddai.

"Ond wrth gwrs, roedd 1997 yn fuddugoliaeth ar gyfer sefydlu'r lle yma [y Senedd] ond dydyn ni erioed wedi cael refferendwm ar yr hyn mae pobl yn meddwl am y ffordd mae'r Senedd yn gweithredu."

Dywedodd hefyd y byddai'n hapus i gynnal refferendwm Brexit arall mewn 15 mlynedd.

Gyda chefnogaeth i Alban annibynnol erbyn hyn yn awgrymu y gallai'r wlad honno fynd ei ffordd ei hun cyn hir, mae cwestiynau mawr am ddyfodol y Deyrnas Unedig, a Chymru hefyd yn gorfod penderfynu pa lwybr sy'n ei haros hi.