'Pwysig cael darlun o fywyd ffermwyr yn ystod Covid'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
fferm

Mae elusen sy'n cynorthwyo ffermwyr wedi lansio un o'r arolygon mwyaf erioed yn y sector amaethyddol.

Dywed RABI mai'r nod yw deall y gofynion a'r pwysau ar gymunedau amaethyddol mewn cyfnod a fydd yn sicr yn cael ei nodi yn y llyfrau hanes.

Yn ystod y deufis nesaf mae RABI yn gobeithio casglu 26,000 o ymatebion i'w harolwg mwyaf, dolen allanol erioed, a hynny drwy Gymru a Lloegr.

Mae'n gofnod pwysig yn ôl Linda Jones, Rheolwr Rhanbarthol Cymru RABI: "Bydd y wybodaeth yn cael ei dorri i lawr i siroedd penodol oherwydd falle bydd anawsterau sy'n taro pobl yn Ynys Môn yn hollol wahanol i'r anawsterau mae ffermwyr a'u teuluoedd yn dod ar eu traws yn Sir Fynwy.

"Dwi'n credu bod y cymunedau amaethyddol wedi gweld eisiau'r sioeau a'r mart achos rheiny yw'r canolbwynt ar gyfer cael sgwrs a dal lan gyda theulu a chymdogion.

"Mae unigrwydd, yn sicr, wedi cael ei bwysleisio'n fwy yn ystod y cyfnod clo."

'Wedi cael cyfnodau anodd'

Mae Aled Jones, Dirprwy Lywydd NFU Cymru eisoes wedi llenwi'r arolwg ac yn teimlo ei fod wedi bod yn gyfle i bwyso a mesur y cyfnod Covid.

"Dwi wedi cael cyfnodau anodd yn y busnes yn ddiweddar," medd Aled Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cymorth teulu a chyfeillion wedi bod o gymorth mawr i Aled Jones yn ystod y pandemig

"Mi aeth fy nghwmni llaeth i'r wal ac wedyn amser y Covid fe wnaeth y cwmni newydd ro'n i wedi ymuno â nhw golli marchnadoedd ac fe wnaeth hynny gael effaith mawr ar bris y llaeth.

"Er bod colledion ariannol yn dipyn o ergyd, y ffordd wnes i gysuro fy hun oedd drwy gryfder teulu a chefnogaeth ffrindiau.

"Pam 'dach chi'n edrych beth sydd gynnoch chi o'ch plaid a be sy'n mynd yn eich erbyn chi 'dach chi'n gweld goleuni newydd ar eich sefyllfa eich hun."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Caryl Jones yn colli cymdeithasu yn y Clwb Ffermwyr Ifanc

Mae'r elusen yn annog pobl o bob cenhedlaeth i lenwi''r holiadur er mwyn cael darlun eang a chynhwysfawr.

Mae Caryl Jones yn ferch fferm ac yn weithgar gyda Chlwb Ffermwyr Ifainc Llanddarog yn Sir Gâr.

"Fi'n credu ei bod hi'n hynod bwysig fod pawb yn llenwi'r holiadur er mwyn cael darlun llawn o'r problemau a'r newidiadau sydd wedi bod yn ystod y cyfnod hwn.

"Ro'n i'n arfer bod mas bob nos mewn ryw ymarfer neu gyfarfod sir - ni gyd wedi colli hynny.

"Fel chi'n gwybod mae Ffermwyr Ifanc yn bobl mor gymdeithasol. Ni gyd yn joio gweld pobl ac mae'r cyfnod clo wedi bod yn sioc fawr i'r system.

"Ond i ffermwyr mae bywyd yn mynd yn ei flaen - mae dal gwaith i'w wneud ac mae dal rhaid codi'n fore - felly o ran hynny mae bywyd wedi gorfod parhau yr un fath ond mae ffermwyr wedi colli'r mwynhad o fynd i'r mart a'r sgwrs.

"Fel ffermwyr ifanc hefyd yn ystod y cyfnod hwn ry'n ni wedi tynnu at ein gilydd i helpu cymunedau."

Adrodd profiadau a chofnodi heriau fydd nod yr arolwg. Wedi'r dyddiad cau ddiwedd Mawrth bydd y cyfan yn cael ei ddadansoddi yn y gwanwyn.

Pynciau cysylltiedig