Covid: Rhybudd i feddygfeydd am oedi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Covid-19 vaccinesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 126,375 o bobl yng Nghymru wedi derbyn eu pigiad cyntaf

Mae meddygon teulu yn y gogledd wedi cael cyngor i ystyried oedi rhoi apwyntiadau brechlyn covid-19 yn gynnar yr wythnos nesaf oherwydd problemau gyda chyflenwad 26,000 dos.

Dywed Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod hyn oherwydd problem genedlaethol "y mae disgwyl ei datrys o fewn y dyddiau nesa."

Dywed Llywodraeth Cymru fod yr oedi yn effeithio ar un allan o'r pedwar cyflenwad o 26,000 dos oedd i fod i gael eu dosbarthu rhwng y saith bwrdd iechyd yng Nghymru.

Ychwanegodd llefarydd nad oedd yn effeithio ar gynlluniau'r llywodraeth.

Hyd yn hyn mae 4% o boblogaeth Cymru wedi derbyn y brechlyn.

Dywedodd Chris Stockport, cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol Betsi Cadwaladr eu bod wedi cael gwybod am oedi gyda'r cyflenwad "fyddai wedi amharu ar gyflenwadau yn genedlaethol yng nghanol wythnos nesa.

"I leihau ar yr amharu a'r pryder fe wnaethom roi gwybod i feddygfeydd am y broblem ar y cyfle cyntaf posib, ac rydym wedi awgrymu eu bod yn oedi rhai apwyntiadau yn gynnar yr wythnos nesaf," meddai.

"Rydym yn disgwyl i'r broblem gael ei datrys yn y dyddiau nesa, ac rydym yn disgwyl y bydd y cyfenwad llawn o frechlynnau yn cyrraedd ymhen yr wythnos.

"Rydym nawr yn y broses o weithio gyda'n partneriaid i leihau unrhyw amharu ac i barhau gyda dosbarthu brechlynnau ar draws y gogledd."

Dywedodd un meddyg teulu o Ddinbych mai "siom ydy'r gair sy'n crynhoi ein teimladau ni'n lleol ynglŷn â hyn".

Ond dyw Dr Dyfan Jones o Feddygfa Bronffynnon ddim wedi gohirio apwyntiadau eto.

"'Dan ni'n gobeithio cael 100 o frechlynnau'r wythnos nesaf, ac mi ydan ni wedi rhoi'r apwyntiadau reit ar ddiwedd yr wythnos yn y gobaith y bydd y brechlynnau yn cyrraedd," meddai.

"Ar y foment, rydan ni'n brechu'r bobl hynaf yn ein cymdeithas ni, ac mae hynny'n golygu dipyn o waith o safbwynt eu gwahodd nhw, a nhw efallai'n gorfod trefnu i rywun ddod â nhw i'r feddygfa.

"Mi fuasai gorfod gohirio'r apwyntiadau a'u haildrefnu yn creu anhwyldod."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae hi'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i gynnig brechlyn yn erbyn Covid-19 i bob oedolyn yng Nghymru erbyn tymor yr hydref eleni.

Yn ôl ffigyrau Llywodraeth y DU mae 126,375 o bobl yng Nghymru, 4% o'r boblogaeth, wedi derbyn eu pigiad cyntaf hyd yma.

Does yna ddim manylion pellach pam fod y cyflenwadau dan sylw wedi cael eu hoedi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod pob cyflenwad unigol yn cynnwys tua 26,0000 dos.

Dywedodd na fyddai'r oedi yma yn effeithio ar y cynlluniau i frechu grwpiau blaenoriaeth erbyn canol Chwefror.