Rhybudd am lifogydd gyda thridiau o law trwm i ddod
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd melyn am lifogydd posib o ddydd Mawrth, gyda rhagolygon am dridiau o law trwm dros Gymru gyfan.
Daw'r rhybudd i rym am 00:00 ddydd Mawrth tan 12:00 ddydd Iau, ac mae rhybuddion am lifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol (CNC) hefyd.
Dywedodd CNC y gallai dros 20 o ardaloedd weld llifogydd, yn cynnwys Gwynedd, rhannau o Bowys, Sir Gâr a de Sir Benfro.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd fe allai hyd at 200mm o law ddisgyn ar draws rhai ardaloedd o ogledd Cymru, ble mae disgwyl y bydd y glaw trymaf.
Fe allai'r glaw ynghyd ag eira sy'n meirioli ar y bryniau achosi llifogydd ar ffyrdd ac mewn cartrefi.
Rhybudd am gyflenwadau trydan
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gall y glaw trwm arwain at lifogydd mewn rhai ardaloedd, yn achosi difrod i rai cartrefi a busnesau.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru ddechrau prynhawn Mawrth fod glaw trwm wedi achosi llifogydd ar y rheilffordd rhwng Bangor a Chaergybi a bod rhai llinellau wedi'u rhwystro.
Ychwanegodd y gwasanaeth bod disgwyl "tarfu tan ddiwedd y dydd" oherwydd y posibilrwydd o orfod canslo neu ohirio trenau "sy'n rhedeg i ac o'r gorsafoedd yma".
Mae teithiau trên rhwng Machynlleth ac Amwythig, a rhwng Caerfyrddin a Dinbych-y-pysgod. Mae peth effaith ar reilffordd Dyffryn Conwy hefyd.
Gall yr holl ddŵr wneud amodau gyrru yn anodd, gyda rhai ffyrdd yn gorfod cau, ac mae rhybudd hefyd y gallai'r tywydd amharu ar gyflenwadau trydan.
Yn ogystal â'r glaw, gall wyntoedd cryfion effeithio ar amodau teithio ar diroedd uwch a ffyrdd agored.