Arestio gyrrwr wedi marwolaeth cerddwr

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae dyn 43 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan fan yn Aberdâr, Cwm Cynon.

Dywed Heddlu'r De i'r gwrthdrawiad ddigwydd rhwng cylchfan Trecynon a Robertstown nos Sadwrn ychydig cyn 23:00.

Mae swyddogion arbennig yn rhoi cymorth a chefnogaeth i deulu'r dyn lleol.

Mae gyrrwr y fan Ford Transit ddu, dyn 30 oed, wedi ei arestio ac yn y ddalfa ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.

Bu'r ffordd ynghau am sawl awr wrth i heddlu archwilio'r safle.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig