Angen 'amynedd a phersbectif' wrth aros am frechiad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dame Deirdre Hines
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Fonesig Deirdre Hines yn galw ar bobl i feddwl am y darlun ehangach

Mae cyn brif swyddog meddygol Cymru wedi galw am "amynedd" a "phersbectif" gan y rhai sy'n aros am frechiad yn erbyn coronafeirws.

Dwedodd y Fonesig Deirdre Hine, a gadeiriodd adolygiad y DU i bandemig Ffliw Moch 2009, fod "pryder dealladwy" am gyflymder y rhaglen frechu.

Ond roedd targed Llywodraeth Cymru i frechu'r boblogaeth yn gyraeddadwy, meddai, a'i bod hi - yn 83 oed - ymhlith y rhai sydd dal i aros am frechiad.

Dywedodd y Fonesig Deirdre fod cyflwyno'r brechlyn yn broses gymhleth, ond roedd profiad y DU o ddarparu brechiadau ffliw blynyddol yn ei gwneud yn hyderus.

Bu'r Fonesig Deirdre, sy'n 83 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, yn arbenigwr iechyd cyhoeddus blaenllaw ar ôl bod yn brif swyddog meddygol Cymru ar ddechrau'r 1990au, a chyn hynny sefydlodd y rhaglen sgrinio canser y fron Bron Brawf Cymru.

Mae hi hefyd yn gyn-lywydd y BMA a'r Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol.

Dysgu gwersi

Cadeiriodd y Fonesig Deirdre ymchwiliad swyddogol y DU i bandemig y Ffliw Moch 2009, a dwedodd wrth BBC Cymru bod rhai gwersi wedi'u dysgu i ddelio â Covid-19.

"Gallaf gweld rhai gwersi gafodd eu dysgu o'r pandemig blaenorol, yr un y gwnes i adrodd arni. Oherwydd er i ni gael brechlyn bryd hynny, roedd y trefniadau ar gyfer ei ddosbarthu yn llawer llai eglur ac yn llawer mwy hirwyntog nag y tro hwn.

"Mae'r trefniadau i'r meddygon teulu i'w dosbarthu, a nawr i'r fferyllwyr eu dosbarthu, i gyd yn welliant aruthrol ar yr hyn a welais yn ystod y pandemig diwethaf."

Ychwanegodd: "Ond fyddai'n dweud bod y profi a'r olrhain yn fater arall, a chredaf bod beirniadaeth gyfiawnadwy wedi digwydd o'r drefn hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y Fonesig Deirdre ei bod yn dal i "aros yn ddiamynedd" am ei hapwyntiad i dderbyn brechlyn, ond galwodd ar bobl i weld y darlun ehangach.

"Gadewch i ni ei gadw mewn persbectif. Mae hwn yn weithred enfawr, gyda llinell gul o gyflenwad y brechlyn, ac felly nid wyf yn synnu ei fod yn cymryd cyhyd ag y mae i gyrraedd pawb. Ond mae gen i bob hyder y byddan nhw yn llwyddo."

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â gwledydd eraill y DU, wedi ymrwymo i frechu pob un o'r pedwar grŵp sydd gyda'r flaenoriaeth uchaf erbyn ganol mis Chwefror.

Dywedodd y Fonesig Deirdre fod y targed yn gyraeddadwy, ond bod pryderon pobl hefyd yn "ddealladwy".

"Mae peth ymchwil diweddar gan Imperial College yn dangos mai pobl yn fy ngrŵp oedran i, sef pobl dros 70 oed, yw'r bobl sy'n poeni fwyaf am y pandemig ac am eu diogelwch eu hunain. Felly nid yw'n syndod bod pobl yn poeni ac yn bryderus, yn siomedig, pan nad ydyn nhw'n cael y llythyr ac yna mae hynny'n troi'n ddicter.

Ffynhonnell y llun, PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Margaret Keenan, 90 oed, oedd y cyntaf yn y DU i dderbyn brechlyn Pfizer-BioNTech ym mis Rhagfyr

Ychwanegodd: "Byddwn i'n dweud wrthyn nhw: gadewch i ni ei gadw'n gymesur, gadewch i ni edrych ar y persbectif.

"Pe byddech chi wedi gofyn imi fis Mai neu fis Mehefin diwethaf a fydde ni hyd yn oed yn cael brechlyn, byddwn i wedi bod yn amheus iawn.

"Yna ar ôl i chi gael y brechlyn, mae angen y cyhoeddusrwydd, gadael i bobl wybod beth sy'n debygol o ddigwydd, cael y gweithwyr i wneud hynny....

"Ac nid yw'n hawdd. Nid yw'n hawdd gwneud hynny i gyd yn gyflym iawn, iawn.

"Rwy'n credu bod dechrau da iawn yn cael ei wneud yma yng Nghymru. Ac rwy'n credu y dylem ni i gyd dawelu, ac aros."

Pynciau cysylltiedig