Brechu: Cymru'n gweithio 'mor gyflym â phosib'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi mynnu bod Cymru'n gweithio "mor gyflym â phosib" ar ei chynllun brechu er mwyn amddiffyn pobl rhag Covid-19.
Dywedodd bod "datblygiadau sylweddol" yn digwydd o ran darparu'r brechlynnau, ac na fydd y gwasanaeth iechyd yn methu'r cyhoedd.
Daw ei sylwadau ar ôl i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford ddenu beirniadaeth am ddweud bod y brechlyn Pfizer yn cael ei oedi am y tro gan fod yn rhaid i gyflenwad Cymru bara tan fis Chwefror.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wedi hynny mai'r rheswm dros oedi dosbarthu'r brechlyn ydy nad ydyn nhw eisiau ei wastraffu trwy yrru mwy o ddosau na'r hyn y mae'r byrddau iechyd yn gallu eu defnyddio.
Daw ei sylwadau wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau 1,106 o achosion newydd o Covid-19 yng Nghymru dros y 24 awr diwethaf, gan fynd â chyfanswm yr achosion i 182,599 ers dechrau'r pandemig.
Cafodd wyth yn rhagor o farwolaethau eu cofnodi gan ICC. Mae 4,302 bellach wedi marw gyda'r haint yng Nghymru.
Bellach mae 161,932 o unigolion wedi derbyn un dos o frechlyn yng Nghymru, a 265 wedi derbyn ail ddos.
'Cynnydd da'
Dywedodd Mr Gething ar Radio Wales fore Mawrth: "Pob wythnos mae cam mawr ymlaen o ran darparu'r brechlynnau.
Ychwanegodd bod Mr Drakeford wedi egluro bellach "nad ydyn ni'n dal brechlynnau yn ôl".
"Rydyn ni'n mynd mor gyflym â phosib," meddai.
"Mae mwy a mwy o bobl yn cael eu hamddiffyn ac erbyn diwedd yr wythnos hon fe ddylai saith o bob 10 o breswylwyr a staff cartrefi gofal fod wedi ei gael, ac fe ddylai saith o bob 10 person dros 80 oed fod wedi ei dderbyn hefyd.
"Rydyn ni'n gwneud cynnydd da o ran cyflymu pethau. Ras yn erbyn y feirws ydy hwn er mwyn adfer cymaint o'n bywydau arferol â phosib.
Ond dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies nad ydy Llywodraeth Cymru'n darparu'r brechlynnau mor gyflym â phosib.
"Dyw'r brechlyn yn dda i ddim yn y botel - fe ddylwn ni fod yn ei ddefnyddio cyn gynted â phosib," meddai.
"Mae gennym rannau enfawr o'r economi ar gau, ac argyfwng iechyd cyhoeddus ar draws y wlad.
"Sbrint ydy hi i gael y brechlyn i bobl mor gyflym â phosib er mwyn amddiffyn pobl yn erbyn y feirws."
'Diffyg eglurder yn achosi dryswch'
Ychwanegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei bod yn allweddol fod gan y cyhoedd hyder yn y ffordd mae'r system yn gweithio.
"Tra bod pobl yn eistedd adref yn disgwyl eu twrn, mae angen iddyn nhw deimlo y bydd eu cyfle nhw yn dod mewn da bryd," meddai.
"'Da ni wedi cael cyfres o ergydion i hyder pobl oherwydd y ffigyrau sydd wedi dangos bod llawer mwy o frechlynnau wedi cael eu gyrru i Gymru na'r hyn sydd wedi'i roi i bobl.
"Yna rydyn ni'n cael y cwpl o ddyddiau ble mae'r Prif Weinidog yn dweud yn bendant bod brechlynnau'n cael eu dal yn ôl, ac yna ymhen ychydig oriau 'na, dydyn ni ddim yn dal y brechlyn yn ôl.
"Mae'r diffyg eglurder yma yn arwain at ddryswch."
DIWEDDARAF: Ysgolion ar gau nes bod 'gostyngiad sylweddol'
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
DYSGU: Dysgu adref gyda Bitesize
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021