Corff wedi'i ddarganfod yn Afon Taf yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae corff dyn wedi ei ganfod yn Afon Taf yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i aelod o'r cyhoedd weld corff yn ardal y Gored Ddu (Blackweir) ger Pontcanna am oddeutu 09:00 fore Iau.
Cafodd yr ardal, sydd gerllaw Llwybr Taf, ei chau wrth i'r gwasanaethau brys dynnu'r corff o'r afon. Dywed Heddlu'r De bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un "anesboniadwy".
Dywed ditectifs bod y broses o adnabod y corff ac ymchwiliad ar fin dechrau.
Mae'r crwner lleol wedi'i hysbysu.