Caerdydd wedi penodi Mick McCarthy i olynu Harris

  • Cyhoeddwyd
Mick McCarthyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau nos Wener eu bod wedi penodi Mick McCarthy yn rheolwr ar ôl diswyddo Neil Harris yn gynharach yn yr wythnos.

Fe wnaeth McCarthy, cyn-reolwr Iwerddon, Wolves ac Ipswich, adael ei swydd gydag Apoel yng Nghyprus yn gynharach yn y mis.

Fe wnaeth yr Adar Gleision ddiswyddo Harris yn dilyn chweched colled yn olynol nos Fercher.

Mae'r clwb yn 15fed yn y Bencampwriaeth, yn agosach at safleoedd y cwymp na'r brig.

Roedd Harris wedi llwyddo i gyrraedd y gemau ail gyfle y tymor diwethaf, ond nid yw'r tîm wedi tanio y tymor hwn.

Mae gan McCarthy brofiad o ennill dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair ers cyfnodau gyda Wolves a Sunderland.