Gwrthdrawiad Sarn: 'Teyrnged i gymeriad a hanner'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu gweithiwr cyngor lleol a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Byron Jeanes, oedd yn 49 oed, ar ôl cael ei daro gan gerbyd BMW du wrth gerdded ar yr A4063, sef ffordd osgoi pentref Sarn.
Mae dyn 28 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.
Parhau mae apêl yr heddlu am wybodaeth all helpu'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ychydig cyn 05:45 fore Mercher.
'Tawel, caredig a mwyn'
Dywedodd teulu Mr Jeanes mewn datganiad: "Mae ein calonnau wedi torri ac fe gofiwn ni'n annwyl am yr amser y cawsom dreulio gyda'n gilydd a'r atgofion a gafodd eu creu."
Cafodd ei ddisgrifio fel "mab, gŵr, brawd, brawd-yng-nghyfraith, ewythr a hen ewythr... fydd yn cael ei golli'n fawr gan bawb".
Aeth y datganiad ymlaen: "Byddai'n gwneud beth bynnag y gallai i helpu unrhyw un oedd mewn angen. Doedd dim byd yn ormod o drafferth.
"Roedd Byron yn hoffi chwerthin ac roedd wastad yn bosib dibynnu arno i leddfu'r awyrgylch ble bynnag roedd e. Roedd yn gymeriad a hanner."
Dywed y teulu ei fod yn ddyn "tawel, caredig a mwyn oedd yn gofalu am ei rieni oedrannus yn eu cartref", ac yn "gwneud ffrindiau'n hawdd ble bynnag y teithiodd e a'i wraig, Michelle".
'Gwên lydan a balchder yn ei waith'
Ychwanega'r datganiad fod Mr Jeanes wedi gweithio i'r awdurdod lleol am 30 mlynedd a'i fod yn "adnabyddus i lawer o bobl ardal Pen-y-bont ar Ogwr".
Dywedodd ei gydweithwyr ei fod "yn aelod uchel ei barch a gweithgar" ac wedi treulio "o gwmpas 13 o flynyddoedd fel Glanhawr Tref Pen-y-bont ar Ogwr, ble roedd yn boblogaidd gyda busnesau lleol a siopwyr.
"Roedd ei waith yn cael ei ystyried yn rhagorol... roedd ganddo falchder personol mewn gwneud job dda."
Ychwanegodd y cydweithwyr: "Roedd yn aml yn cyfarch pobl gyda gwên lydan ac ambell sylw hwyliog... mae tristwch mawr oherwydd ei farwolaeth."
Mae Heddlu'r De'n awyddus i gael gwybodaeth neu luniau gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu'r cyfnod ychydig cyn y digwyddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2021