Dim effaith i'r cynllun brechu wedi llifogydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd Sgiwen ger Castell-nedd lifogydd gwael wedi'r glaw trwm ganol wythnos
Dyw'r llifogydd diweddar ddim wedi cael "effaith andwyol" ar y cynllun brechu, medd Llywodraeth Cymru.
Ddydd Iau bu'n rhaid i nifer o bobl Sgiwen ger Castell-nedd adael eu cartrefi wrth i law trwm effeithio ar sawl ardal.
Dywed Bwrdd Iechyd Bae Abertawe nad yw'r llifogydd wedi cael effaith ar eu canolfannau brechu na gofal sylfaenol.
Dywedodd llefarydd ei bod hi'n bosib aildrefnu apwyntiad petai rhywun wedi methu cael brechiad oherwydd y tywydd.
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd nad oeddynt yn ymwybodol bod y llifogydd wedi cael effaith ar y cynllun brechu.
Ddydd Iau dywedodd arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard, bod timau wedi sicrhau na gollwyd yr un dos o frechlyn AstraZeneca, sy'n cael ei gynhyrchu ar Stâd Ddiwydiannol Wrecsam, yn y llifogydd.
Dangosodd ffigyrau ddydd Gwener bod 212,317 o bobl yng Nghymru wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn coronafeirws gyda 415 arall wedi cael yr ail ddos.

Cafodd nifer o gartrefi a cheir ddifrod yn Sgiwen
Bu'n rhaid i 80 o bobl Sgiwen adael eu tai ddydd Iau wrth i'r tywydd waethygu. Ddydd Gwener fe ddychwelodd criwiau y Gwasanaeth Tân i'r ardal er mwyn gwaredu dŵr o'r tai.
Yn y cyfamser bu'n rhaid achub teulu o bentre Yr Orsedd ger Wrecsam wedi i ddŵr amgylchynu eu cartref nos Iau.

Fe effeithiodd y llifogydd hefyd ar ardaloedd yng ngogledd Cymru gan gynnwys Bangor-is-y-coed
Ddydd Gwener dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod ymdrechion i ail-gartrefu y rhai sydd wedi'u heffeithio yn cael eu gwneud yn unol, tra bod hynny'n bosib, â chyfyngiadau Covid.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd y llifogydd wedi cael effaith ar y cynllun i frechu pobl yng Nghymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021