Busnesau priodas yn galw am gymorth ar Ddydd Santes Dwynwen

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rhys a CeriFfynhonnell y llun, Ceri Haf Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhys a Ceri fod i briodi ym Medi 2020

Mae busnesau priodasau yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i helpu'r sector.

Fe ddaw'r alwad wrth i'r diwydiant rybuddio bod peryg i Gymru golli nifer o fusnesau creadigol da os nad oes mwy o arweiniad.

Ar ddiwrnod Santes Dwynwen, diwrnod dathlu cariad, mae galw am gynllun clir i ddod allan o'r pandemig.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n "ystyried" pa gefnogaeth bellach sydd ei angen ar fusnesau.

'Angen marquee i ddal 30?'

Bwriad Ceri Haf Roberts oedd priodi ym mis Medi 2020, ac mae hi yn poeni am ei dyddiad newydd yng Ngorffennaf 2021.

"Dwi'n edrych ymlaen at briodi, achos priodas ar ddiwedd y dydd ydy priodi dy ffrind gore," meddai, "ond dwi ddim yn edrych mlaen i ddeud wrth bobl - sori ti ddim cweit wedi neud y rhestr fer i ddod i'm mhriodas i.

"Y peth oedd yn rhoi'r gorbryder mwyaf i fi oedd poeni na fyddai'r suppliers ar gael.

"Rhywbeth arall ydy DJ neu fand - oes 'na bwynt os na chi'n cael dawnsio? Y marquee wedyn - ydw i angen gwario saith mil o bunnau ar babell i ddal 30 o bobl?

"Dwi wedi clywed am lot o bobl sydd yn yr un sefyllfa â ni, yn lle gohirio eto maen nhw'n mynd i orfod talu mwy neu golli arian yn gyfan gwbl os yn canslo.

"Does dim arweiniad gan y Llywodraeth o ran lle ni'n sefyll - maen aneglur a rhwystredig."

Ffynhonnell y llun, Cas Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cas Jones wedi mynd ar gwrs ymarfer dysgu am nad yw hi bellach yn canu mewn digwyddiadau

Un sydd ddim wedi cael "unrhyw gymorth ariannol" ers dechrau'r pandemig yw'r gantores Cas Jones. Hyd yn hyn, mae wedi colli trideg o gigiau canu gyda nifer fawr ohonyn nhw yn briodasau.

"Mae'r gigiau byw wedi bod yn rhywbeth ar yr ochr i fi, mae'n swm sylweddol o arian, ond dwi ddim wedi gallu cael unrhyw help ariannol."

"Mae pob gig gennai wedi ei ganslo yn 2020, a rŵan hefyd yn dechrau effeithio ar 2021.

"Pwy a ŵyr beth mae'r dyfodol am ddal i fi, ond mae wedi effeithio fy nghanu yn fawr iawn.

"Y rheswm nes i fynd i wneud ymarfer dysgu oedd y pandemig. Y final push oedd o mewn ffordd, pan mae rhywbeth fel pandemig yn digwydd ti'n gorfod mynd amdani."

'Colli' busnesau da

Un sy'n teimlo bod angen mwy o help ar y diwydiant priodasau yw'r ffotograffydd o'r Bala, Heledd Roberts.

Ffynhonnell y llun, Heledd Roberts
Disgrifiad o’r llun,

'Mae angen mwy o help ar fusnesau priodasau', medd y ffotograffydd Heledd Roberts

Mae'n dweud bod "y busnesau newydd, sydd yn llwyddiannus, ddim wedi bod yn gymwys am unrhyw arian" gan y Llywodraeth.

"Dwi'n teimlo'n arw dros rheiny achos mae gwir bosibilrwydd y byddwn ni'n colli nifer o'r busnesau da yna.

"Mae'n rhaid cael rhyw fath o roadmap i'r sector priodasau, sydd werth miliynau i'r economi yng Nghymru. Mae'n biti ein bod ni'n cael ein gadael ar yr ochr," meddai.

'Ystyried cefnogaeth bellach'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein pecyn o gymorth busnes yn ategu'r hyn sydd ar gael gan Lywodraeth San Steffan a dyma'r pecyn mwyaf hael ym Mhrydain.

"Ers mis Mawrth mae mwy na £ 1.7bn wedi cyrraedd busnesau gyda mwy o geisiadau yn cael eu prosesu pob diwrnod. Rydyn ni hefyd yn ystyried pa gefnogaeth bellach sydd angen ar fusnesau.

"Rydyn ni'n delio ag argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn gweithio gyda holl sectorau'r economi er mwyn darparu cymaint o eglurder a phosib ynglŷn â chyfyngiadau.

"Maen gyfnod heriol i bawb yn y sector lletygarwch, ac rydym ni yn ymwybodol o hynny tra'n ymateb i'r pandemig a chadw Cymru yn ddiogel. "