Sgiwen: 'Bydd rhai allan o'u cartrefi am o leiaf chwe mis'
- Cyhoeddwyd
Bydd yn cymryd o leiaf chwe mis cyn y gall rhai trigolion ddychwelyd i'w cartrefi wedi i gwymp hen siafft lofaol achosi llifogydd yn Sgiwen, yn ôl yr Awdurdod Glo.
Dywed prif weithredwr yr awdurdod, Lisa Pinney fod llif dŵr Mynydd Drumau bellach yn dilyn "llwybr newydd", sy'n dod i'r wyneb yng nghyffordd dwy o ffyrdd y pentref - Ffordd Drumau a Pharc Goshen.
Un opsiwn sy'n cael ei ystyried fel bod gymaint o bobl â phosib yn ôl adref yn ddiogel ac yn brydlon, yw prynu rhai o'r cartrefi sydd wedi'u difrodi.
Bydd gwaith capio'r siafft yn cymryd tri mis, ond bydd adeiladu system reoli dŵr yn ddwfn dan ddaear i ddargyfeirio'r dŵr yn cymryd o leiaf hanner blwyddyn.
Datrysiad newydd parhaol
Mae "lot o ddŵr yn dod oddi ar y mynydd [a] gweithfeydd glo helaeth hynafol ar y bryniau uwchlaw", yn ôl Ms Pinney.
"Pan fo dŵr yn canfod llwybr, dyna fydd ei lwybr newydd wedi hynny, felly mae angen i ni osod datrysiad newydd parhaol, er mwyn ei reoli'r gywir," eglurodd.
"Bydd yna bibell newydd barhaol fydd yn mynd â'r dŵr yn ddiogel trwy'r pentref ac allan at bwynt dadlwytho."
Er mai'r "flaenoriaeth heddiw yw... cael gymaint o bobl â phosib yn ôl yn eu cartrefi'n barhaol gynted â phosib", rhybuddiodd Ms Pinney mai "yn achos o leiaf nifer fach, bydd yn gyfnod hirach o amser".
Mae "angen i ni gael y drafodaeth gydag unrhyw un y gall gael eu heffeithio", meddai, ond y gobaith yw y bydd "mwyafrif y preswylwyr yn ôl adref "lawer cyn [chwe mis]".
Dywedodd Ms Pinney bod dim lle i gredu bod yna dai sy'n anniogel yn saernïol, a bod dim angen gorchmynion prynu gorfodol.
"Rydym, weithiau, yn prynu tai os yw'r preswylwyr yn fodlon eu gwerthu a bod rheswm i ni angen gwneud hynny - er enghraifft, petai achos o ymsuddiad [subsidence]," meddai.
"Rydym yn edrych ar bob opsiwn yma ar hyn o bryd, a beth yw'r balans gorau i gael pobl yn ôl yn eu cartrefi mor fuan â phosib.
"Byddwn yn cael y trafodaethau hynny gyda phreswylwyr yn y dyddiau nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021