Llifogydd Sgiwen: 'Misoedd' cyn cael dychwelyd adref
- Cyhoeddwyd

Tynnodd Cerys Thomas luniau o'r mwd trwchus sydd wedi dod i mewn i gartref ei rhieni ym Mharc Goshen
Mae pentrefwyr a ddioddefodd lifogydd yn eu cartrefi o achos difrod i hen waith mwyngloddio wedi eu "llorio" gan y newyddion y gallai fod yn fisoedd nes bydd modd dychwelyd adref.
Mae'r awdurdodau sy'n ymchwilio i lifogydd Sgiwen wedi dweud ei bod hi'n bosib mai gormod o bwysedd dŵr mewn siafft oedd yn gyfrifol am y llifogydd.
Dywedodd Steve Morris fod cartref ei fab Gareth a'i gariad yn Sgiwen, Castell-nedd Port Talbot, wedi ei boddi gan ddŵr llifogydd "oren" sy'n cynnwys carthffosiaeth.
Fe gafodd 80 o bobl eu symud allan o'u cartrefi ddydd Iau, ac fe gafodd preswylwyr eu hannog i gadw draw oherwydd ofnau am ddiogelwch.
Nos Lun dywedodd y cyngor y byddai rhai trigolion yn cael mynd yn ôl i'w cartrefi o ddydd Mawrth, gyda rhagor o fanylion i ddilyn.
Dywedodd yr Awdurdod Glo ei fod yn gobeithio darparu rhagor o wybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf ddydd Mawrth hefyd.

Esboniodd Mr Morris wrth BBC Radio Wales fod ei fab wedi derbyn galwad ddydd Iau i ddweud bod ei dŷ ar fin dioddef llifogydd.
Dywedodd Mr Morris fod Gareth a'i gariad yn aros mewn gwesty wrth iddyn nhw ddisgwyl am ganiatâd i gael mynd yn ôl i'w cartref i asesu'r difrod.
Mae'n gobeithio y bydd eu cwmni yswiriant yn talu i rentu cartref ar eu cyfer, gan ychwanegu: "A bod yn onest fe allai ragweld y byddan nhw allan o'u tŷ am rhwng chwech a 10 mis.
"Maen nhw'n amlwg wedi eu llorio - dim ond ers 12 mis maen nhw wedi bod yno felly roedd popeth yn agos at fod yn newydd sbon."

Aeth y prif weinidog, Mark Drakeford, i Sgiwen ddydd Sul
Yn y cyfamser, dywedodd yr Awdurdod Glo ei fod wedi darganfod achos y digwyddiad.
Dywedodd y prif weithredwr, Lisa Pinney, wrth BBC Radio Wales: "Yn gyntaf, rwyf am ddweud ein bod yn cydymdeimlo gyda phawb sydd wedi'u heffeithio gan y llifogydd yma, ac mae'n wirioneddol ddrwg gennym fod pobl wedi cael eu heffeithio fel hyn.
"Yr hyn rydyn ni'n ei wybod hyd yma yw fod y digwyddiad wedi'i achosi gan rwystr dan ddaear a achosodd i ddŵr ddianc allan wrth ddod o hyd i'r llwybr hawsaf, a does dim amheuaeth bod y glaw trwm iawn yn ystod y dyddiau cynt hefyd yn ffactor yn hynny."
Dywedodd un sy'n byw yn lleol ei bod "byth wedi gweld" llifogydd tebyg o'r blaen
Dywedodd Ms Pinney fod gweithwyr wedi gallu dod o hyd i safle'r gwaith mwyngloddio a gwympodd gan achosi'r llifogydd, a bod yr awdurdod wedi dechrau "datblygu opsiynau".
"Rydyn ni wir yn deall bod pobl eisiau mynd yn ôl i'w cartrefi, maen nhw eisiau casglu pethau, maen nhw eisiau gwybod beth yw'r camau nesaf," meddai.
"Rydyn ni'n gweithio mor gyflym â phosib i wneud i hynny ddigwydd ac rydyn ni'n gobeithio gallu darparu ychydig mwy o wybodaeth yn ystod y diwrnod nesaf, ond fe fyddwch yn deall bod yn rhaid i ni fod yn sicr o ran diogelwch y cyhoedd."

Map yr Awdurdod Glo o ardaloedd (mewn pinc) ble bu cloddio yn yr ardal a'r dotiau du'n dynodi'r siafftiau
Dywedodd Ms Pinney fod bron i 300 o siafftiau neu olion mwyngloddio ar draws gwaith mwyngloddio Sgiwen, sy'n cwmpasu ardal o tua 12 km sgwâr (7.6 milltir sgwâr).
Ychwanegodd: "Rydyn ni wedi gwirio'r holl siafftiau a gofnodwyd yn yr ardal gyfagos ac rydym yn gwneud gwiriadau parhaus dros y dyddiau nesaf.
"Nid ydym wedi dod o hyd i unrhyw broblemau. Maen nhw i gyd yn ddiogel."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021