Cyhoeddi cynlluniau llygredd yn 'gamgymeriad enfawr'

  • Cyhoeddwyd
TractorFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae penderfyniad gan y gweinidog amgylchedd i gyhoeddi cynlluniau hir-ddisgwyliedig ar daclo llygredd amaeth yn ystod yr argyfwng coronafeirws wedi'i ddisgrifio fel "camgymeriad enfawr".

Dywedodd Andrew RT Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion gwledig, ei fod wedi'i "synnu".

Mae'r rheoliadau newydd, fydd yn effeithio ar bob fferm, wedi'u gosod ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mynnu mae gweinidogion mai ond drafft yw'r ddogfen a bod penderfyniad terfynol i gyflwyno'r mesurau ai peidio wedi'i ohirio oherwydd y pandemig.

Mae'r rheolau - sydd wedi bod dan ystyriaeth ers 2016 - yn ymwneud â sut mae ffermwyr yn storio a gwasgaru slyri a gwrtaith.

'Ta ta ar fusnesau'

Bu sawl ymgynghoriad cyhoeddus yn ogystal ag ymdrechion i arbrofi a mesurau gwirfoddol.

Mae arweinwyr y diwydiant amaeth wedi dadlau nad oes modd cyfiawnhau cyfyngiadau llymach, gan honni y byddai'n arwain at nifer o fusnesau'n mynd i'r wal oherwydd yr angen i fuddsoddi miloedd o bunnau mewn storfeydd.

Dweud bod angen y mesurau ers tro mae grwpiau amgylcheddol, a hynny er mwyn atal llygredd rhag llifo i afonydd gan ladd pysgod a bywyd gwyllt.

Dywedodd llefarydd amgylchedd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd nad oedd yn medru credu amseru cyhoeddiad y gweinidog.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Pwysleisio nad yw'r cynlluniau yn cael eu cyflwyno nawr mae Lesley Griffiths

"Mae'r sector yng nghanol brwydr am ei ddyfodol yn sgil Covid-19. Mae ganddi bethau pwysicach i ddelio â nhw! Pa synnwyr gwneud hyn ar yr adeg yma?" ysgrifennodd ar Twitter.

Honni bod y penderfyniad yn un "gwael fydd yn y pendraw yn cael effaith niweidiol" wnaeth Mr Davies.

Wrth annerch cyfarfod ar-lein y Senedd, dywedodd y gweinidog amgylchedd Lesley Griffiths: "Y cyfan dwi wedi'i wneud heddiw yw dweud y byddai'n gosod rheoliadau drafft ar wefan Llywodraeth Cymru - dydyn nhw ddim yn cael eu cyflwyno."

'Pwysig rhannu gwybodaeth'

"Dyw llygredd amaethyddol ddim yn rhywbeth y mae'r mwyafrif o ffermwyr yn ei ganiatáu ar eu fferm a bydd y rheiny sy'n dilyn arfer da ddim yn gweld llawer o newid," meddai.

"Ond mae'r wybodaeth ar y rheoliadau yma wedi'i weld yn barod gan lawer o bobl ac roedden i'n teimlo ei bod hi'n bwysig i rannu hynny.

"Roeddwn i wedi ymrwymo i gyflwyno rheoliadau erbyn y Pasg. Dwi ddim yn gwneud hynny - y cyfan dwi'n ei wneud yw cyhoeddi rheoliadau drafft a bydd digon o amser i drafod a dadlau'r rheiny yn y Senedd."

Wythnos diwethaf rhybuddiodd Cyfoeth Naturiol Cymru y dylai ffermwyr a chontractwyr wasgaru a storio slyri yn gyfrifol yn ystod yr argyfwng coronafeirws, a hynny medden nhw yn dilyn cynnydd mewn adroddiadau o achosion o lygredd.