Achosion Covid: Cyhuddo pennaeth DVLA Abertawe o gamarwain
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth y DVLA yn Abertawe wedi'i chyhuddo o roi gwybodaeth "gamarweiniol" dros achosion Covid-19 ymhlith ei weithwyr.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Trafnidiaeth San Steffan, dywedodd y prif weithredwr, Julie Lennard fod 546 o achosion yn y sefydliad ers mis Mawrth 2020.
Roedd 535 achos rhwng mis Medi a mis Rhagfyr y llynedd yng nghanolfan alwadau asiantaeth drwyddedu'r DVLA, meddai.
Ond dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Huw Merriman AS, fod y DVLA wedi nodi o'r blaen fod yr achosion wedi'u lledaenu dros gyfnod hirach o amser.
Daw wedi i undeb PCS alw ar weinidogion i ymyrryd, gan honni fod gweithwyr yn ofni mynd i'r gwaith rhag ofn iddyn nhw gael eu heintio.
Dywedodd Ms Lennard fod y cynnydd mewn cyfraddau ar gyfer staff DVLA yn cyd-daro â'r nifer fawr o achosion yn ne Cymru ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr.
Dywedodd wrth ASau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cytuno bod y rhan fwyaf o'r achosion wedi bod yn drosglwyddiadau cymunedol yn hytrach na'u bod yn gysylltiedig ag achos o'r gweithle.
'Ymdrech enfawr i ddiogelu safleoedd'
Roedd tua 60 o weithwyr mewn canolfan gyswllt DVLA a ddatblygodd Covid ym mis Rhagfyr a dywedodd Ms Lennard mai hon oedd yr unig sefyllfa yr ymdriniodd Iechyd Cyhoeddus Cymru â hi fel achos o'r gweithle.
Cafodd y DVLA ei holi gan ASau ynghylch pam y cyhoeddodd Cyngor Abertawe orchymyn i uwch reolwyr gydweithredu â swyddogion iechyd cyhoeddus dros Covid.
Dywedodd Ms Lennard na allai ateb ar gyfer Cyngor Abertawe ond ei bod yn "annheg dweud" nad oedd uwch reolwyr yn cymryd y sefyllfa o ddifrif.
"Mae'r DVLA wedi gwneud ymdrech enfawr i wneud ein safleoedd Covid yn ddiogel," ychwanegodd.
Mae tua 2,000 yn gweithio ar safleoedd y sefydliad ar unrhyw adeg benodol gan gynnwys staff rhan-amser a gweithwyr shifft.
Boris Johnson yn ymateb
Dywed Prif Weinidog y DU fod ei lywodraeth wedi bod yn "gweithio yn ddi-flino ar y broblem yn y DVLA".
Roedd Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris, wedi galw ar Boris Johnson i gymryd "cyfrifoldeb llawn" am "reolaeth druenus a di-hid yr achosion Covid ar safleoedd llywodraeth DVLA yn fy etholaeth".
Yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mercher, gofynnodd hefyd iddo sicrhau bod ei "ysgrifennydd trafnidiaeth yn atebol am y difrod a'r dadfuddsoddi anfaddeuol y mae hyn wedi'i achosi".
Dywedodd y Prif Weinidog bod yr holl staff sy'n gallu gweithio gartref yn gwneud hynny.
"Cymerwyd mesurau i leihau nifer y bobl ar y safle ar unrhyw un adeg, ac mae mwy na 2,000 o brofion wedi'u cynnal gan y DVLA yn ystod y pythefnos diwethaf yn unig, gyda'r holl ganlyniadau hyd yn hyn yn dod yn ôl yn negyddol," meddai Mr Johnson.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2020