Galw am ymchwiliad wedi marwolaeth aelod o staff DVLA

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
DVLA AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae undeb wedi galw am ymchwiliad yn dilyn marwolaeth un o staff yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau (DVLA).

Cadarnhaodd y DVLA, sydd â swyddfa yn Abertawe, bod dyn wedi marw.

Daw yn dilyn beirniadaeth o'r asiantaeth, ble mae dros 500 o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi.

Mae undeb PCS wedi galw am "ymchwiliad llawn i'r amgylchiadau", gan ddweud eu bod yn "hynod bryderus a thrist".

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Mark Serwotka: "Does dim dwywaith bod mynnu bod dros 2,000 o staff y DVLA yn mynd i mewn i'r gwaith bob dydd yn siŵr o arwain at achosion pellach o Covid ac yn cynyddu'r posibilrwydd o farwolaethau pellach."

Roedd gweithwyr y DVLA wedi dweud wrth y BBC bod ganddyn nhw ofn mynd i'w gwaith oherwydd yr achosion.

Yn gynharach ddydd Mercher cafodd pennaeth y DVLA ei chyhuddo o roi gwybodaeth "gamarweiniol" dros achosion.

Mewn datganiad, dywedodd y DVLA eu bod wedi "tristau" gan y farwolaeth, a'u bod yn cydymdeimlo gyda'i deulu.

Ychwanegodd y llefarydd bod yr asiantaeth yn "canolbwyntio ar ddiogelwch staff drwy gydol y pandemig", a'u bod yn parhau i gydweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r llywodraeth i "sicrhau bod ein safleoedd yn ddiogel".

Pynciau cysylltiedig