Gofalwyr di-dâl yn pryderu am yr hawl i gael eu brechu

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Ceri Higgins o Don-teg yn ofalwraig

Mae pryder ymysg gofalwyr di-dâl na fydd yr awdurdodau'n gwybod pwy ydyn nhw pan fydd eu tro i gael brechiad Covid-19, yn ôl elusen.

Yn ôl Gofalwyr Cymru mae sawl gofalwr yn poeni am y fath sefyllfa os nad ydyn nhw'n derbyn lwfans gofalwyr nac yn defnyddio gwasanaethau gwirfoddol neu statudol.

Mae'r nifer o ofalwyr di-dâl wedi cynyddu yn ystod y pandemig i 683,000 yng Nghymru, yn ôl ymchwil Gofalwyr Cymru. Un ohonyn nhw yw Ceri Higgins o Don-teg.

Ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru mae'n dweud ei bod yn pryderu'n fawr am bwy fyddai'n gofalu am ei mam os na fydd hi'n cael cynnig brechlyn, ac yna'n dal Covid.

"Rwy wedi llwyddo sicrhau apwyntiad i mam gael y brechlyn, ond bydda' i dal yn ei rhoi hi mewn perygl tan y bydda i'n cael y brechlyn," meddai.

Ers i'r pandemig daro, daeth unrhyw gymorth ymarferol i helpu gofalu am ei mam i ben, ac mae Ceri'n dweud bod diffyg dealltwriaeth yn gyffredinol am y pwysau sydd ar ofalwyr fel hi.

"Mae'n galed achos ni di blino'n rhacs. Dyw'r gefnogaeth ddim yna hyd yn oed mewn achlysur o greisis really," meddai,

"Rwy' ar alw 24 awr y dydd, a does dim dealltwriaeth bo' chi methu troi'r bwtwm off. Mae angen rhyw fath o lifeline."

Yn ôl Ceri, mae ei lles a'i hiechyd hi ei hun yn dioddef dan yr amgylchiadau, a dyw hi ddim yn gwybod beth fydd effaith hirdymor hynny ar ei hiechyd.

"Fi'n teimlo weithie bo fi'n hollol numb, bo' fi heb gael cyfle i feddwl sut dwi'n teimlo, achos dwi ddim yn cysgu lot a ddim yn cael seibiant.

"Wedyn, yn y dyfodol bydd hyn yn dod i'r golwg rwy'n siŵr."

Arbed arian

Yn ôl ymchwil Gofalwyr Cymru mae gofalwyr di-dâl Cymru yn arbed £33m y dydd i Lywodraeth Cymru wrth ddarparu gofal i'w hanwyliaid.

Maen nhw'n dweud mai gofalwyr di-dâl yw'r "trydydd piler" o ran iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig. Eu rhybudd yw bod sawl gofalwr wedi ymlâdd yn llwyr oherwydd y sefyllfa.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceri yn rhagweld problemau i'w hiechyd ei hun yn y dyfodol oherwydd y diffyg cefnogaeth

Mae Ceri'n dweud ei bod hi'n bryderus am beth fyddai'n digwydd os bydd mwy o ofalwyr di-dâl yn mynd yn sâl, ac yn methu gofalu am eu hanwyliaid, neu yn marw.

Ei chwestiwn hi yw pwy fyddai'n gofalu wedyn pan fo'r system ofal eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi.

"I fod yn onest, oedd cefnogaeth mor warthus neu ddim ar gael hyd yn oed cyn y pandemig. O'dd e fel loteri côd post. Ni di dechrau o le ofnadwy cyn i'r holl beth yma ddechrau."

Serch hynny, mae 80% o ofalwyr di-dâl Cymru'n dweud eu bod yn darparu mwy o ofal nawr nag oedden nhw cyn i'r cyfnod clo ddechrau.

Mae cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru, Claire Morgan, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod "gofalwyr yn cael eu hadnabod yn gywir".

"Dylen nhw gael y wybodaeth a'r gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw i barhau i ofalu'n ddiogel, yn ogystal ag edrych ar ôl eu hiechyd a'u lles eu hunain", meddai.

'All y sefyllfa ddim parhau'

Mae'r sefyllfa'n bryder i lefarydd Plaid Cymru ar drawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus, Delyth Jewell.

Ers gofyn i'r prif weinidog flaenoriaethu gofalwyr di-dâl i gael eu brechu yn y Senedd ddydd Mawrth, mae hi'n dweud bod nifer fawr o ofalwyr wedi cysylltu gyda hi.

"Mae hyn yn sefyllfa really bwysig achos mae'r gwaith ma' gofalwyr yn ei wneud yn cael ei anghofio yn y pandemig gymaint o weithiau.

"Mae'n dda bod gofalwyr cyflogedig yn cael eu blaenoriaethu ond does dim cyfiawnhad i beidio blaenoriaethu gofalwyr di-dâl hefyd. Maen nhw'n 'neud gwaith agos iawn gyda phobl fregus."

Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r system yn gynaliadwy, meddai Delyth Jewell

Ychwanegodd bod angen "trawsnewid" y system, gan uno gyda'r gwasanaeth iechyd.

"Mae nifer o bobl yn neud y gwaith yma mas o gariad at eu teuluoedd ond mae'n waith corfforol anodd.

"Fel arfer, menywod sy'n ei neud e, nid bob amser, ond yn aml yn ychwanegol i'w gwaith bob dydd. Ond dyw'r economi ddim yn talu sylw i'r gwaith sy'n cael ei neud.

"Mae'n broblem ar gyfer y brechlyn, ond yn rhan o batrwm lot ehangach. All y sefyllfa ddim parhau fel y mae e."

Mewn datganiad, mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru'n dweud: "Rydym ni yn dilyn y canllawiau o ran y grwpiau sydd wedi'u blaenoriaethu yn unol â chanllawiau'r Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio.

"Mae gwaith wedi dechrau i adnabod gofalwyr di-dâl."

Pynciau cysylltiedig