Gofalwyr ar ben eu tennyn yn ôl elusennau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
John a Sue Burley
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sue Burley a'i gwr John yn teimlo fel eu bod wedi cael eu gadael ar eu pen eu hunain heb gefnogaeth

Mae gofalwyr ar ben eu tennyn am fod y cymorth sydd yno iddynt fel arfer, ddim ar gael yn ystod y pandemig.

I Sue Burley sy'n gofalu am ei gŵr John - sy'n 74 oed ac sydd â dementia - trodd rhywbeth mor syml â theledu'n torri yn broblem lawer mwy, oedd yn gwneud iddi deimlo wedi'i llethu a'i hynysu.

Daeth stori Mrs Burley i'r amlwg wrth i elusennau ddatgelu fod gofalwyr bron a chyrraedd y pen oherwydd llai o gefnogaeth.

Ond dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau gyda'r gwaith hanfodol o ddarparu cymorth a chefnogaeth i ofalwyr.

'Wedi ein llorio'n llwyr'

Dywedodd Mrs Burley, o Ynys Môn, eu bod yn teimlo wedi eu "llorio'n llwyr" wrth geisio cael trwsio'r teledu.

"Mae'n cymryd hanner awr i bobl ateb y ffôn, ac weithiau mae'r alwad yn dod i ben yn ddisymwth nes eich bod chi'n gorfod gwneud yr holl beth drosodd eto," meddai.

"Roeddwn i'n crio drwy'r amser, ro'n i'n methu cysgu a ro'n i'n gwybod fy mod i'n dechrau mynd yn sâl. Mi eisteddais yno un bore yn teimlo anobaith llwyr.

"Er ei fod o'n swnio'n hurt, pan dorrodd y teledu roedd o'n teimlo fel bod rhywbeth arall wedi cael ei gymryd oddi arnom ni."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sue Burley nad yw'n gallu darllen erbyn hyn am ei bod yn aros i gael triniaeth cataract ar ei llygaid

Roedd problemau iechyd, yn cynnwys dementia ei gŵr, a'r teimlad o fod wedi eu hynysu, wedi cael effaith drom ar eu hiechyd meddwl.

"Rydym wedi colli ein rhyddid, rydym wedi colli ein gallu i fynd ble y mynnom, ac i fod efo pwy fynnon ni," meddai.

"Dwi'n aros i gael tynnu cataracts ac maen nhw wedi gwaethygu'n gyflym, felly fedra i ddim darllen ddim mwy - rydyn ni'n teimlo'n ynysig iawn.

"Mae'n anodd i'r ddau berson sy'n byw efo dementia. Mae'n wirioneddol anodd i'r person sy'n dioddef ohono, ac mae'n wirioneddol anodd i'r partner."

Haen arall o bwysau

Dywedodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru fod 96% o'r gofal sy'n cael ei ddarparu yng Nghymru yn cael ei wneud gan ofalwyr di-dâl, ac mae'r pandemig wedi cynyddu'r pwysau anghynaladwy y maent yn ei wynebu.

Roedd nifer yn cael trafferth ymdopi am fod llefydd fel canolfannau dydd wedi cau, a gwasanaethau wedi eu cwtogi yn y sector iechyd a chymdeithasol.

Dywedodd Kate Cubbage o'r ymddiriedolaeth fod y pandemig wedi ychwanegu haen arall at y pwysau sy'n wynebu gofalwyr di-dâl.

"Rydym yn ymwybodol iawn bod y system ei hun a'r bobl oddi mewn iddi yn arbennig o fregus ar hyn o bryd," meddai.

'Teimlo dan warchae'

Dywedodd Age Concern Cymru bod angen buddsoddiad er mwyn ailagor y gwasanaethau y mae pobl hŷn a gofalwyr yn dibynnu arnyn nhw.

Roedd tynnu rhai gwasanaethau iechyd a chymdeithasol ar ddechrau'r pandemig wedi gadael pobl hŷn yn teimlo'n "ynysig, yn unig ac yn gorfod ceisio ymdopi ar ben eu hunain", yn ôl Michael Phillips o'r elusen.

"Roedd wedi gwneud i bobl deimlo eu bod dan warchae," meddai.

"Roedd yr hyn a allai fod yn lwmp syml yn gallu troi'n bryder ynglŷn â chanser, ac yna rydych chi'n byw eich bywyd mewn ofn yn hytrach nag yn gallu ymdopi."

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gofalwyr mewn cyfarfod grŵp wedi ei drefnu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru mewn bwyty yn Llanfairfechan

Serch hynny mae 'na rai gwasanaethau'n dal ar gael, megis y tri grŵp cymunedol y mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn eu cynnal bob wythnos yn y gogledd ar gyfer cyplau a theuluoedd sy'n gofalu am bobl â dementia.

Maen nhw hefyd yn cynnal cyfarfodydd Zoom ac yn darparu cymorth un-i-un, cefnogaeth dros y ffôn, a help gyda gwaith tŷ a siopa.

Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru fod "nifer o fesurau" wedi cael eu cyflwyno yn ystod y pandemig i sicrhau fod pobl yn dal i allu cymdeithasu mewn ffordd ddiogel.

"Rydym yn darparu arian drwy'r rhaglen adnoddau cymunedol, gwasanaethau gwirfoddol, cronfeydd adfer a gwella a chronfeydd gwydnwch i helpu cymdeithasau trydydd sector a chanolfannau cymunedol i addasu i'r rheolau Covid newydd," meddai.

Ychwanegodd eu bod yn "parhau gyda'r gwaith hanfodol o gefnogi a helpu gofalwyr gydag ystod eang o bartneriaid yn cynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, academyddion a'r gofalwyr eu hunain".