'Diffyg llyfrau llafar Cymraeg cyfoes' yn amddifadu actores
- Cyhoeddwyd
Pan yn 10 oed cafodd yr actores Mared Jarman o Gaerdydd wybod bod ganddi'r cyflwr Stargardst, sy'n effeithio ar y golwg canolog ac sy'n gwaethygu gydag amser.
Ers pan yn blentyn dyw Mared ddim wedi gallu darllen llyfrau print.
Mae hi bellach yn actores ac yn awdur, ac mae'n dweud bod y byd celfyddydol "ar ei hôl hi" o ran cwrdd â gofynion pobl anabl a bod y sefyllfa yn waeth yn Gymraeg.
"Does dim digon o lyfrau cyfoes Cymraeg ar gael i bobl fel fi," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.
"Fi'n cydnabod bod llyfrau ar gael ond maen nhw ar dâp neu CD a dwi'n cydnabod gwaith gwirfoddolwyr ond byddai'n braf clywed llais actorion go iawn yn lleisio'r llyfrau fel bo' fi'n gallu cael yr un mwynhad â phobl sy'n gallu darllen."
'Gwadu gan fy nghymuned'
Mae Mared Jarman bellach wedi ffurfio deiseb yn gofyn i actorion leisio llyfrau Cymraeg diweddar.
Dywed Cyngor Llyfrau Cymru eu bod yn croesawu'r sgwrs bwysig sy'n datblygu o gwmpas llyfrau llafar Cymraeg a dywed Llyfrau Llafar Cymru eu bod yn gobeithio cydweithio â Mared.
"Dwi jyst eisiau tynnu sylw at yr angen," medd Mared, "y gallai rhywun fod yn sefydlu cwmni i wneud hyn. Yn Saesneg mae gwasanaeth fel Audible yn wych.
"Does gen i ddim mynediad i lyfrau cyfoes Cymraeg nac unrhyw gyswllt â diwylliant llenyddol yn y Gymraeg. Dwi'n teimlo fel fy mod i'n cael fy ngwadu gan fy nghymuned," medd geiriad y ddeiseb.
"Mae'r diffyg mynediad yma wedi cael effaith mawr arna'i yn ystod fy addysg. Doedd dim modd darllen y llyfrau ar y cwricwlwm, darllen i fwynhau na gwella fy ngeirfa, treiglo ac ati.
"Nawr, fel oedolyn sy'n rhan o'r byd celfyddydol yng Nghymru dwi'n colli allan ar y sgyrsiau a'r datblygiadau sy'n ymwneud ag awduron cyfredol a chyffrous.
"Dydw i ddim hyd yn oed yn medru darllen y llyfr nes i gyfrannu ato llynedd - Byw yn fy Nghroen. Eironig...," ychwanega Mared.
Mae Mared Jarman yn dweud nad yw hi eisiau cwyno na derbyn unrhyw gydymdeimlad.
Mae'n galw am "sefydlu prosiect neu gwmni sy'n creu a rhyddhau llyfrau llafar cyfoes Cymraeg fyddai ar gael i bawb".
"Byddent yn cael eu recordio gan actorion proffesiynol a fydd yn briodol i lais y darn," meddai.
"Mae llyfrau llafar yn fwy poblogaidd nawr nag erioed gyda trawsdoriad o genedlaethau yn dewis gwrando yn hytrach na darllen print.
"Mae'n diwydiant ni fel actorion mewn lle anodd ar hyn o bryd, gyda nifer mawr ohonom allan o waith ac yn parhau i golli cyfleoedd. Er hyn, mae gweithio a recordio o adre wedi profi'n llwyddiannus iawn dros y cyfnod Covid-19 yma.
"Dwi'n credu bod angen am hyn yn y Gymraeg er lles ein diwylliant ffrwythlon... Mae'n rhaid i ni gyrraedd y rhai sydd heb fynediad," mae'n ychwanegu.
Llyfrau llafar ar gynnydd
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Llyfrau Cymru: "Rydym yn croesawu'r sgwrs bwysig sy'n datblygu o gwmpas llyfrau llafar Cymraeg ac yn awyddus i sicrhau bod dewis da o fformatau ar gael i ddarllenwyr.
"Mae'n faes masnachol anodd ond mae'n galonogol bod nifer y llyfrau llafar Cymraeg sydd ar gael yn cynyddu'n raddol, gyda'r Lolfa er enghraifft ar fin rhyddhau chwe llyfr llafar newydd.
"Y tu hwnt i werthiant masnachol fel hyn, mae cymdeithasau'r deillion wedi trefnu bod cannoedd o lyfrau llafar Cymraeg ar gael am ddim drwy'r llyfrgelloedd i bobl sy'n ddall neu â nam ar eu golwg.
"Edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid er mwyn trafod sut mae datblygu'r ddarpariaeth fasnachol ymhellach."
Ar ran Llyfrau Llafar Cymru dywed Rhian Evans oni bai am Covid mi fyddai eu darpariaeth nhw bellach ar-lein ac ar gael drwy gyfrwng ap.
"Dyna'r dyfodol," meddai, "ond yn anffodus mae Covid wedi rhoi stop ar y cynlluniau am y tro.
"Ry'n wedi cysylltu gyda Mared ac fe fyddwn yn hoffi cydweithio.
"Mae gennym ni bellach 2,000 o lyfrau llafar ac fel arfer ry'n yn lleisio ryw 50 y flwyddyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd20 Mai 2018
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2017