'Dim digon o gymorth i bobl wedi llifogydd Sgiwen'
- Cyhoeddwyd
Nid yw dioddefwyr llifogydd yr wythnos ddiwethaf yn Sgiwen y cael digon o gymorth a gwybodaeth, yn ôl menyw sydd wedi gorfod gadael ei chartref.
Llifodd ddŵr i ddwsinau o gartrefi wedi i hen siafft lofaol orlenwi a chwympo, ac mae'r Awdurdod Glo wedi rhybuddio y gall fod yn chwe mis cyn y bydd yn ddiogel i rai preswylwyr fynd adref.
Ar raglen frecwast BBC Radio Wales, dywedodd un o'r preswylwyr, Kelly Birch, bod y sefyllfa'n un anodd iawn iddi hi, ei theulu a'u cymdogion.
"Mae ein tai'n dal yn llawn dŵr, y llifogydd a'r llaid, a dydyn ni heb allu cael unrhyw gwmnïau yswiriant i mewn i gael golwg."
"Roedden ni'n lwcus, mae gen i rieni sy'n byw'n agos felly ry'n ni'n gallu aros gyda nhw. Ond mae'r rhan fwyaf o'n cymdogion yn dal mewn gwestai, neu'n trio cael aros gyda phobl eraill."
'Darnau o wybodaeth, nid darlun llawn'
Mae'r Awdurdod Glo - y corff sy'n rheoli effeithiau mwyngloddio yn y gorffennol - wedi bod mewn cysylltiad, medd Ms Birch, ond mae'n teimlo bod angen mwy o wybodaeth na'r hyn maen nhw wedi'i derbyn hyd yma.
"Mae'r Awdurdod Glo wedi cynghori y bydd 'na gyfnod chwe mis, ond dydyn ni ddim yn gwybod a yw hynny'n chwe mis cyn inni allu dechrau gwneud gwaith [i'r tŷ], ynteu chwe mis cyn y gallwn ni fynd yn ôl a byw yna.
"Ry'n ni mewn limbo ar y foment. Ry'n ni'n cael darnau o wybodaeth ond byth yn cael y darlun llawn."
Ychwanegodd Ms Birch: "Dydyn ni heb allu mynd i gasglu unrhyw eiddo, mae ceir yn dal ar y stryd. Mae pobl i fod i weithio o adref a nawr, yn amlwg, mae hynny'n amhosib achos maen nhw mewn ystafell gwesty gyda gweddill eu teuluoedd."
'Popeth wedi'i ddifetha'
Roedd Ms Birch a'i theulu wedi byw yn y tŷ am18 mis cyn y llifogydd, gan ddarfod ei ddodrefnu a'i addurno ym mis Tachwedd. Dywedodd bod eu pethau wedi'u difrodi gormod i'w cadw, gan gynnwys dodrefn newydd sbon.
"Mae'n hollol ddychrynllyd. Roedden ni reit yn llwybr y dŵr.
"Mae pob un peth lawr grisiau wedi'i difetha. Does dim modd achub dim byd yn y tŷ lawr grisiau.
"Fy mhryder i, a gweddill y preswylwyr yw, hira' yn y byd mae'r hyn yn parhau bydd ein holl eiddo fyny grisiau hefyd yn difrodi gan fod y tŷ'n damp.
"Mae'n llawn mwd, dydyn ni ddim yn gwybod pryd fydd yn cael ei lanhau mas, [felly mae peryg] i ni golli popeth lan lofft hefyd."
Opsiynau a thaliadau
Mae prif weithredwr yr Awdurdod Glo, Lisa Pinney wedi dweud eu bod yn edrych ar "bob opsiwn" i gael gymaint o bobl ag sy'n bosib yn ôl i'w cartrefi'n ddiogel mor fuan â phosib, gan gynnwys prynu rhai o'r tai.
Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot y byddai pobl sy'n byw yn Sunnyland Crescent yn cael dychwelyd o ddydd Iau ymlaen, ond bod angen cysylltu gyda'r awdurdodau trydan yn gyntaf.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai £6.5m i gefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan lifogydd yn ystod y cyfyngiadau coronafeirws llym.
Dywedodd y llywodraeth y byddai'n "caniatáu i awdurdodau lleol wneud cais am gostau ymateb i lifogydd gan gynnwys cymorth i breswylwyr i fynd i'r afael â chost uniongyrchol difrod dŵr ac adnewyddu nwyddau angenrheidiol".
Mae taliadau o hyd at £1,000 hefyd ar gael i aelwydydd gafodd eu heffeithio gan Storm Cristoph yr wythnos ddiwethaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021