Ymchwiliad llofruddiaeth ar ôl canfod corff ar stryd
- Cyhoeddwyd

Bu Westville Street yn ardal Penylan ar gau wrth i'r heddlu ymchwilio
Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth ar ôl i gorff gael ei ganfod yng Nghaerdydd.
Cafodd y dyn, sydd heb ei adnabod eto, ei ganfod gan aelod o'r cyhoedd yn Westville Road, Penylan, ddydd Iau tua 23:30.
Mae Heddlu De Cymru wedi sefydlu ystafell ddigwyddiadau yng Ngorsaf Heddlu Ganolog Caerdydd.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un, neu unrhyw un a oedd yng nghyffiniau Ffordd Casnewydd a'i gyffordd â Albany Road, neu yn Broadway, rhwng 22:15 ddydd Iau a 01:00 ddydd Gwener.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George: "Waeth pa mor ddibwys y gall y wybodaeth ymddangos, byddai'n well gennym pe baech yn gwneud ein galwad i'n hystafell ddigwyddiadau i siarad ag un o'n swyddogion.
"Byddwn yn gofyn, os oes unrhyw un a oedd yn yr ardal o gwmpas yr amseroedd hyn, sydd ag unrhyw luniau dashcam neu deledu cylch cyfyng, i gysylltu â'r ystafell ddigwyddiadau yng ngorsaf heddlu Canol Caerdydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2021