Defnyddwyr ap Covid-19 yn gymwys am daliad hunan-ynysu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Woman holding phone wearing maskFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae defnyddwyr ap ffôn Covid-19 y gwasanaeth iechyd bellach yn gymwys i wneud cais am daliad hunan-ynysu, yn ôl Llywodraeth Cymru.

O ddydd Llun bydd y bobl sy'n cael cyfarwyddyd i hunan-ynysu gan yr ap yn gymwys i wneud cais am y taliad cymorth hunan-ynysu o £500.

Cyn hyn roedd y taliad ond ar gael yng Nghymru i bobl ar incwm isel a oedd wedi derbyn cais i hunan-ynysu drwy alwad ffôn, e-bost, llythyr neu neges destun.

Er hyn, ni fydd y rhai a gafodd cyfarwyddid i hunan-ynysu trwy'r ap cyn dydd Llun yn gymwys am daliad.

Roedd pobl yn Lloegr a oedd yn derbyn neges i hunan-ynysu trwy'r ap yn barod yn gymwys am daliad.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James bod awdurdodau lleol wedi bod yn "gweithio'n ddiflino" i sicrhau bod pobl yn gallu gwneud cais yn uniongyrchol am daliad trwy'r ap.

Ychwanegodd: "Mae'r taliad o £500 eisoes wedi rhoi diogelwch ariannol i bobl sydd wedi cael cyfarwyddyd i hunan-ynysu, gan helpu i dorri'r cylch trosglwyddo a sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un ddewis rhwng aros gartref a methu bwydo eu teulu, neu fynd i'r gwaith ac, o bosib, lledaenu'r feirws."

Dywedodd Llywodraeth Cymru gall bobl wneud cais trwy gysylltu â'u hawdurdod lleol nes bod yr ap yn cael ei ddiweddaru.

Ychwanegon nhw fod angen i ddefnyddwyr hefyd ddangos tystiolaeth bod yr ap wedi gofyn iddynt hunan-ynysu yn ogystal â thystiolaeth o incwm isel wrth wneud cais, tan fod yr ap yn gallu dilysu unigolion sy'n gwneud cais.

Bydd awdurdodau lleol yn gallu derbyn a phrosesu ceisiadau am daliadau o ddydd Gwener 5 Chwefror a bydd ymgeiswyr yn gallu gwneud cais hyd at dair wythnos o ddiwrnod olaf eu cyfnod hunan-ynysu.