Galw am gymorth i bobl ag anabledd ddefnyddio'r we

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
jan kenchFfynhonnell y llun, Jan Kench

Dylai pobl ag anableddau gael mwy o gymorth i gael mynediad i'r we - dyna mae elusen Mencap Ceredigion yn ei ddweud.

Yn ôl yr elusen mae nifer o'u haelodau yn colli'r cyfle i gymdeithasu yn ystod y pandemig gan nad ydyn nhw'n cael cymorth i ddefnyddio'r we.

Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cymorth i fynd ar y we yn rhan o gynllun gofal pobl sydd ag anableddau.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn benderfynol i chwalu rhwystrau i fynediad i'r we i bawb.

I aelodau Mencap Ceredigion allai hynny ddim digwydd yn ddigon cyflym. Yn ôl un o wirfoddolwyr yr elusen a mam i ferch ag anableddau dysgu, Jan Kench, mae bron i 200 o aelodau yn y grŵp, ond prin yw'r rhai sy'n gallu ymuno â'u gweithgareddau ar-lein.

"Er bod gyda ni lot o aelode, nifer bach sy'n dod ar y we," medd Jan, gan egluro bod llwyth o'r gweithgareddau oedd yn arfer cael eu cynnal ar draws Ceredigion nawr yn digwydd ar-lein.

"Pan ddechreuon ni ar Zoom roedd e'n anodd i ddeall, ond ar ôl cael help llaw, mae'n dod yn rhwydd. Tamed bach o help ychwanegol sydd ei angen na'i gyd.

"Sai'n gweud llai bod yr help ma' pobl yn ei gael yn y gymuned ar hyn o bryd - help i siopa a talu biliau - ma' 'na'n bwysig, ond ni wedi dysgu dros adeg Covid bod bod mewn cysylltiad â theulu a ffrindie yn bwysig iawn.

"I fyw o fewn pedair wal a gweld yr un hen wynebe drwy'r amser, mae'n bwysig iawn bo ni'n cael yr help i gadw mewn cysylltiad â phobl."

Un sy'n cytuno'n llwyr yw Faye Parrington o Aberteifi sydd ag anableddau dysgu.

"Ar y dechre o'n i'n unig," meddai wrth siarad am ddechrau'r pandemig, "ond mwy na dim byd ma' cadw cysylltiad 'da Jan a Mencap Ceredigion a'r aelodau gyd wedi bod yn help mawr i fi a'r grŵp i gyd achos ni gyd yn trio cadw fel un."

Mae hi wedi bod yn mwynhau ymuno yn y cwis, y boreau coffi, y sesiynau cadw'n heini a'r celf a chrefft. Ond y sesiwn mae hi wirioneddol yn ei hoffi yw'r clwb animeiddio, sydd wedi symud ar-lein,

"Mae lot o aelode yn licio dod at ei gilydd i neud y clwb animeiddio ar Zoom a siarad â ffrindie a creu stori, creu background a lliwie gwahanol a jyst rhoi popeth at ei gilydd."

Yn 2019, roedd y clwb animeiddio wedi llwyddo i gynnal gŵyl animeiddio arbennig yn Aberystwyth - gan wireddu breuddwyd merch Jan Kench, Bethan. Yn ffan mawr o Anime, roedd cynnal gŵyl i ddathlu ei diddordeb pennaf yn gyffrous tu hwnt.

Ffynhonnell y llun, Jan Kench

Dywedodd Jan fod cadw'r diddordeb yna yn fyw yn ystod y pandemig yn helpu'r aelodau i gynnal eu hysbryd,

"Fi'n credu bo fe'n bwysig ofnadwy, ry'n ni gyd yn gwybod pa mor anodd mae wedi bod i ni gyd ddim gweld ffrindiau na theulu. Mae dros 200 o aelode 'da ni ond nifer bach o'r grwpie 'ny sy'n gallu ymuno yn y gweithgareddau. Ni di dysgu wrth Covid bod angen cadw cysylltiad â'n gilydd. Bydden i'n gofyn i'r llywodraeth a'r awdurdodau i edrych ar yr help sydd ishe rhoi i bobl i gael access i'r we."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn benderfynol i sicrhau mynediad i'r byd digidol i bobl ag anableddau. Maen nhw'n amcangyfrif y gallai fod cynifer a 60,000 o bobl gydag anableddau dysgu yng Nghymru - ac maen nhw'n dweud eu bod yn cydweithio â sawl sefydliad i gynnig hyfforddiant a chymorth i wirfoddolwyr.

Yn ôl Jan, mae 'na brinder gwirfoddolwyr i helpu gyda'r grŵp ac mae'n gobeithio bydd mwy yn ymuno wrth i gyfyngiadau'r coronafeirws lacio.

Yn y cyfamser, bydd aelodau Mencap Ceredigion yn parhau i gymdeithasu ar-lein, gan obeithio bydd mwy o bobl ag anawsterau dysgu yn gallu ymuno.