'Angen newid neu bydd y DU yn cwympo oddi wrth ei gilydd'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Brif Weinidog Cymru wedi rhybuddio na fydd yna Deyrnas Unedig ymhen 10 mlynedd os nad yw'r berthynas rhwng Llywodraeth San Steffan a'r llywodraethau datganoledig yn newid.
Yn ôl Carwyn Jones os nad oes yna unrhyw newid "fe fydd y Deyrnas Gyfunol yn cwympo oddi wrth ei gilydd".
Mae angen pwysleisio budd yr undeb, yn ôl y gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Davies.
A dyw o ddim yn credu y gallan nhw "newid meddwl pobl sydd eisiau annibyniaeth, trwy roi mwy o rym at y Senedd yng Nghymru neu'r Senedd yn yr Alban".
Ond mae'r Arglwydd Dunlop, gafodd ei gomisiynu i edrych ar sut mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda'r llywodraethau datganoledig, wedi rhybuddio na ddylen nhw fod yn hunanfodlon.
Mae o'n credu bod angen newid yn y berthynas rhwng y llywodraethau, i fod yn "llai adhoc, yn fwy rhagweladwy, efo cyfarfodydd cyson" ac mae'n pwysleisio'r angen i'r llywodraethau i "weithio ar y cyd" a datblygu "awyrgylch mwy adeiladol" na'r hyn a fu.
Mae Carwyn Jones wedi beirniadu'r modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymateb i'r cynnydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth ar draws gwledydd Prydain.
"Maen nhw'n credu taw creu rhyw fath o nostalgia am ryw oes sydd 'di mynd yw'r ffordd i gryfhau'r Deyrnas Gyfunol," meddai.
"Os taw dyma beth yw'r llwybr, mewn 10 mlynedd dwi ddim yn credu y bydd y Deyrnas Gyfunol yma.
"Mae o mor bwysig i ystyried y berthynas rhwng gwledydd yr ynysoedd hyn mewn ffordd holistig, yn lle dweud, wel os 'da ni'n taflu ychydig o bwerau i'r Alban, taflu ychydig o bwerau i Gymru, ma' hwnna yn mynd i ddatrys yr holl broblem.
"Mae'n rhaid nawr edrych ar y corff i gyd i weld sut all y corff weithio yn well yn y pendraw".
'Rhoi bai ar San Steffan am bopeth'
Ond mae David Davies yn rhybuddio bod yna beryg bod y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn "chwarae fewn i ddwylo y rhai sydd eisiau cael annibyniaeth yng Nghymru" drwy "roi bai ar Lywodraeth San Steffan am bopeth".
"Mae 'na beryg eu bod nhw'n awgrymu bod yr holl egwyddor o'r Llywodraeth yn San Steffan yn anghywir," meddai.
Yn ôl Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth mae Brexit a Covid wedi codi cwestiynau sylfaenol ynglŷn â rôl y cyrff datganoledig yn y setliad presennol, ac mae hynny wedi arwain at dwf yn y gefnogaeth i annibyniaeth.
"'Nôl yn 2014 roedd rhai o'r polau yn dangos mai dim ond 17% oedd yn cefnogi annibyniaeth, ond 'da ni 'di cyrraedd lefel rŵan ble mae chwarter y rheiny sy'n ymateb i'r polau yn mynegi eu bod nhw o blaid annibyniaeth i Gymru," meddai.
"Mae hwnna dal yn lleiafrif, ond mae'n gynnydd sylweddol ac arwyddocaol."
Mae'r pandemig wedi chwarae ei ran meddai'r Arglwydd Dunlop.
"Dwi'n meddwl mai'r hyn mae Covid wedi'i wneud yw ei gwneud hi'n glir i bobl pa mor bwysig yw llywodraeth i'w bywydau," meddai.
"Yn ystod y cyfnod yma mae miloedd ar filoedd o bobl wedi dibynnu ar benderfyniadau llywodraeth.
"Yn naturiol mae pobl wedi canolbwyntio ar ba mor dda mae llywodraeth yn gweithio a pha mor effeithiol yw'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020