Brown am weld Cymru yn rhan o gyfundrefn ffederal
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid newid y ffordd mae'r Deyrnas Unedig yn cael ei lywodraethu neu wynebu'r risg o fod o'n "wladwriaeth sy'n methu" yn ôl y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown.
Mewn erthygl yn y Daily Telegraph, dolen allanol mae'n dweud fod Covid wedi amlygu "tensiynau" rhwng Whitehall a'r gwahanol wledydd a rhanbarthau o fewn y DU.
Mae Mr Brown yn galw ar Boris Johnson i sefydlu comisiwn er mwyn adolygu'r modd mae'r DU yn cael ei llywodraethu.
Mae o am weld system ffederal gyda mwy o bwerau yn cael eu datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr.
Dywed y cyn-brif weinidog fod y pandemig "wedi dod â thensiynau a chwynion sydd wedi bod ym mudferwi ers blynyddoedd i'r wyneb" - tensiynau rhwng Downing Street a gwahanol wledydd a rhanbarthau'r DU.
Yn ôl Mr Brown mae dyfodol undod yn DU yn dibynnu ar ddosbarthiad "teg" o bwerau wedi Brexit, a hefyd "ailadeiladu perthynas sydd wedi ei thorri".
Cred Mr Brown y bydd datganoli mwy o bwerau yn fodd o wella perfformiad economaidd gwahanol ardaloedd, gan leihau bylchau anghyfartaledd.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd yr SNP y byddan nhw'n cynnal refferendwm arall ar annibyniaeth wedi'r pandemig, pe bai nhw'n ennill mwyafrif yn etholiadau mis Mai.
Mae Mr Johnson wedi dweud na fyddai'n caniatáu refferendwm arall.
Yng Nghymru, mae'r mudiad sydd am weld Cymru annibynnol, YesCymru, yn dweud fod nifer ei aelodau wedi cynyddu o 2,000 ers dechrau 2020 i dros 17,000.
Mae Plaid Cymru hefyd wedi addo cynnal refferendwm pe bai nhw'n ennill mwyafrif yn etholiadau mis Mai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020