Gwario £4m ar ailwampio Castell Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Bydd camau cyntaf cynllun £4m i ailwampio prif fynedfa Castell Caernarfon yn dechrau ddiwedd y mis.
Mae cynlluniau Cadw yn cynnwys ailddatblygu Porth y Brenin, creu mannau dehongli newydd i wella profiadau ymwelwyr, gosod lifft a thoiledau newydd, yn ogystal â chaffi.
Gyda'r gwaith adnewyddu i fod i gael ei gwblhau yn gynnar yn 2022, am y tro cyntaf ers mwy na chanrif, nid y porth yma fydd yn croesawu ymwelwyr i'r castell; yn hytrach bydd prif fynedfa dros dro trwy Borth y Dŵr sydd wrth droed Tŵr yr Eryr.
Mae'r cynlluniau eisoes wedi cael caniatâd cynllunio gan Gyngor Gwynedd.
Gwerthu caffi
Mae'r gwaith i fod i ddechrau ar 30 Tachwedd, pan fydd 190 tunnell o sgaffaldiau'n cael eu codi i gael mynediad i ben Porth y Brenin, sy'n 25m o uchder.
Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd Porth y Brenin yn cynnwys dec gwylio newydd ar lefel uchaf y porthdy a chaffi.
Mae Cadw'n bwriadu gwerthu'r caffi er mwyn cynnig cyfle i fusnesau lleol ei redeg.
Mae'r gwaith datblygu hefyd yn cynnwys siop anrhegion, yn ogystal â chyfleuster dehongli hanesyddol newydd.
Yn y cyfamser, bydd gwaith cadwraeth ar y tyrau cyfagos yn helpu i amddiffyn y strwythur canoloesol am genedlaethau i ddod.
Disgwylir i'r prosiect fod yn un o brosiectau mwyaf a mwyaf cymhleth Cadw hyd yma.
Dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Cymru, yr Arglwydd Elis-Thomas: "Mae gwneud gorffennol Cymru yn fwy hygyrch i bobl o bob cefndir yn hanfodol, a thrwy dechnoleg arloesol, gallwn ddatgloi rhannau o'n safleoedd hanesyddol sydd heb eu harchwilio eto wrth ymchwilio'n ddyfnach i'w hanesion."
Dywedodd Will Mellor, cyfarwyddwr Grosvenor Construction o'r Rhyl, y bydd yn anrhydedd i wneud y gwaith a'i fod yn edrych ymlaen at ddod â'r cynlluniau'n fyw a chwarae rhan werthfawr yn 700 mlynedd o hanes y castell."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2020
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2020