Marwolaeth tirlithriad Cwmduad 'yn ddamweiniol'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol yn achos dyn 21 oed o Gastell Newydd Emlyn a gafodd ei ladd ar ôl cael ei sgubo gan dirlithriad yn ystod Storm Callum.
Bu farw Corey Sharpling o anafiadau niferus ar 13 Hydref 2018 ar ôl dod oddi ar fws yng Nghwmduad wrth deithio i'r gwaith ym mwyty McDonalds yng Nghaerfyrddin.
Clywodd y gwrandawiad yn Llanelli bod lori o flaen y bws a Mr Sharpling wedi eu taro pan lithrodd "llethr gyfan" ar bwys yr A484.
Cafwyd hyd i'w gorff yn ddiweddarach dan weddillion coed a phridd ger ffrwd islaw'r ffordd.
Dywedodd y Crwner Paul Bennett nad oedd modd "disgrifio'r dinistr a achoswyd" ar ôl gwylio lluniau CCTV'r bws o'r ddamwain.
Roedd y lluniau hynny'n dangos Mr Sharpling yn cerdded tua 100m i fyny'r ffordd ar ôl gadael y bws tua chefn y lori.
Cafodd bywyd y gŵr ifanc, meddai, "ei dorri'n druenus o fyr" mewn "achos trist iawn, iawn".
'Bywiog, doniol, cwrtais'
Clywodd y cwest fod Corey Sharpling wedi symud i Gastell Newydd Emlyn o Birmingham gyda'i deulu, ac wedi ei addysgu yn Ysgol Castell Newydd Emlyn a Choleg Aberteifi.
Roedd yn gyn-gadet gyda'r fyddin ac yn aelod o stiwdio ddawns yn y dref ac o'r eglwys Gatholig leol.
Roedd newydd symud i fyw mewn fflat gyda'i gymar.
Cafodd ei ddisgrifio yn y gwrandawiad fel person "bywiog a doniol", oedd yn aelod "cwrtais" a "gwerthfawr" o staff y bwyty ble roedd yn gweithio.
Darllenodd ffrind i'r teulu, Gareth Evans ddatganiad ar eu rhan oedd yn "diolch i'r rhai a helpodd ar Hydref y 13eg ac yn y dyddiau ers hynny. Byddwn wastad yn ddiolchgar".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2018