Cyhuddo dau o geisio llofruddio wedi achos o saethu

  • Cyhoeddwyd
Llun o Stryd Windsor yn NhrecynonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr ergydion eu tanio i gyfeiriad ar Stryd Windsor yn Nhrecynon nos Lun, 1 Chwefror

Mae ditectifs sy'n ymchwilio i ddigwyddiad lle cafodd ergydion gwn eu tanio i gyfeiriad yng Nghwm Cynon wedi cyhuddo dau ddyn o geisio llofruddio.

Cafodd Oliver Pearce, 30, o Rhydyfelin, a Ricky Webber, 28, o Porth, eu cyhuddo nos Wener, ac maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa.

Roedd disgwyl iddyn nhw fynd o flaen Llys Ynadon Caerdydd fore Sadwrn.

Cafodd y ddau hefyd eu cyhuddo o fod â dryll yn eu meddiant gyda'r bwriad o achosi ofn, bod ag arf yn eu meddiant gyda'r bwriad i beryglu bywyd, a bod ag arf yn eu meddiant mewn man cyhoeddus.

Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad, yn Windsor Street, Trecynon, tua 9.30pm nos Llun, Chwefror 1.

Tra bod yr ymholiadau'n parhau mae'r heddlu hefyd yn awyddus i ddod o hyd i drydydd sydd dan amheuaeth - James Drakes, 33 oed o Bendyrus.

Mae swyddogion yn apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth am 'James Drakes' i gysylltu â'r heddlu. Mae nhw hefyd yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â lluniau dash-cam neu deledu cylch cyfyng o'r ardal a allai gynorthwyo'r ymchwiliad, i gysylltu â nhw.

Ffynhonnell y llun, Heddlu'r De
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am James Drakes i gysylltu â nhw