Ceidwadwyr: 'Rhaid cael fframwaith cyfyngiadau tebyg i bawb'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew RT Davies AS yn galw am fframwaith gyffredin ar draws holl wledydd y Deyrnas Unedig o ran y cyfyngiadau

Dylai "fframwaith cyffredin" o gyfyngiadau Covid-19 gael eu mabwysiadu ledled y DU, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae Andrew RT Davies AS eisiau i weinidogion Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu "cysondeb mewn meysydd lle mae pedwar prif swyddog meddygol y Deyrnas Unedig yn cytuno heb os".

Dywedodd Mr Davies: "Dim ond oherwydd y gall Cymru wneud pethau'n wahanol, ni ddylai hyn olygu y dylai Llywodraeth Cymru wneud pethau'n wahanol bob amser."

Ar hyn o bryd mae gan Gymru gyfradd achosion Covid-19 sy'n is na Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Bydd y disgyblion ieuengaf yn dychwelyd i ysgolion cynradd Cymru yr wythnos ar ôl hanner tymor mis Chwefror, ond ni fydd ysgolion Lloegr yn ailagor tan ddechrau mis Mawrth.

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd y prif weinidog ei fod yn "falch" bod Llywodraeth Cymru yn cael "cyfarfodydd rheolaidd â Llywodraeth y DU bob dydd Mercher - a nifer o ddyddiau rhwng y mwyafrif o wythnosau bellach - lle rydyn ni'n gallu siarad am ddulliau cyffredin ".

Ond ychwanegodd Mark Drakeford: "Serch hynny, byddwn ni i gyd [pedair llywodraeth yn y DU], yn gwneud y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud o dan yr amgylchiadau rydyn ni'n eu hwynebu.

"Mae nifer y bobl sy'n mynd yn sâl gyda choronafeirws fesul 100,000 o boblogaeth Cymru yn gostwng ar hyn o bryd bob dydd", meddai.

"Mae tua hanner y lefel sydd i'w gweld dros y ffin yn Lloegr. Fyddwn i ddim am wrthod siawns i fusnesau Cymru neu atyniadau awyr agored agor yn gynharach pe bai ein hamgylchiadau'n caniatáu i hynny ddigwydd."

Ffynhonnell y llun, WPA Pool
Disgrifiad o’r llun,

Mae Boris Johnson wedi dweud ei fod yn bwriadu cyhoeddi cynlluniau i leddfu cyfyngiadau cloi Lloegr o 22 Chwefror.

Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Sunday Times, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig fod ei blaid "yn gwrthod safbwynt y blaid Lafur bod rhaid i Gymru fod yn wahanol am ei bod hi'n gallu bod yn wahanol."

Ychwanegodd Andrew RT Davies: "Nid yw hynny'n golygu y byddai pob penderfyniad a wneir gan lywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn union yr un fath ag un a wnaed gan lywodraeth Geidwadol yn San Steffan.

"Ond mae'n bryd cael cysondeb mewn meysydd lle mae pedwar prif swyddog meddygol y Deyrnas Unedig yn ddi-os yn cytuno, yn hytrach na pharhau gyda'r arfer yn y Bae bod yr Athro Drakeford yn pryfocio'r Prif Weinidog bob tro.

"Fel pobl a busnes ledled Cymru, rydyn ni am gael gwared ar y gwleidyddiaeth, ac yn hytrach fabwysiadu fframwaith cyffredin ar gyfyngiadau."

Yn ei erthygl, cyfeiriodd Mr Davies at arolwg barn diweddar gan YouGov, dolen allanol a gynhaliwyd yng Nghymru.

Awgrymodd yr arolwg barn o fis Ionawr fod 63% o'r rhai wnaeth ymateb yn credu y dylai penderfyniadau ynghylch mesurau cloi ddigwydd ar yr un pryd ar gyfer y DU gyfan hyd yn oed os yw rhai ardaloedd ar wahanol lefelau nag eraill wrth leihau lledaeniad y firws.

Awgrymodd cwestiwn ar wahân, yn gofyn sut bod rheolau cloi coronafeirws yn cael eu penderfynu, fod 47% yn credu y dylai Llywodraeth y DU benderfynu ar y rheolau ar gyfer y DU gyfan, dywedodd 43% y dylai llywodraethau datganoledig benderfynu ar y rheolau, gyda 10% yn dweud nad oeddent yn gwybod.