Downing Street yn gwrthod apêl rheol teithio i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae apêl Prif Weinidog Cymru i atal pobl rhag teithio o ardaloedd risg uchel yn Lloegr i Gymru wedi cael ei gwrthod gan Lywodraeth y DU.
Mewn llythyr at Boris Johnson ddydd Mawrth, mae Mark Drakeford yn ategu ei alwadau blaenorol am waharddiad statudol, gan ddadlau fod diffyg rheol o'r fath yn "tanseilio" ymdrechion yng Nghymru i atal lledaeniad coronafeirws.
Mae'r llythyr yn atodi tystiolaeth wyddonol o blaid cyfyngiadau teithio i warchod ardaloedd risg isel, ond yn ôl llefarydd Mr Johnson mae "eisoes yn glir iawn" y dylai'r cyhoedd ddilyn arweiniad lleol y gweinyddiaethau datganoledig.
Mae Downing Street yn mynnu bod "dim ffiniau ffisegol rhwng Cymru a Lloegr".
Mae Mr Drakeford hefyd wedi gofyn i Mr Johnson am gyfarfod arbennig i drafod y posibilrwydd o gyflwyno cyfyngiadau llym iawn am gyfnod byr i arafu trosglwyddiad yr haint.
'Un cyfle olaf'
Rhybuddiodd Mr Drakeford nos Lun ei fod am roi "un cyfle olaf" i Lywodraeth y DU newid y rheolau teithio, gan fynegi "siom fawr" ynghylch cynigion Mr Johnson i gynghori pobl yn unig i osgoi teithio o ardaloedd risg uchel i fannau ble mae cyfraddau achosion yn isel.
Dywedodd fod gan Lywodraeth Cymru'r pwerau i gau'r ffin gyda Lloegr ond nid dyna ei ddymuniad ac y byddai ei lythyr yn amlygu'r dystiolaeth o blaid gwaharddiad cyfreithiol.
Yn y llythyr, dywed Mr Drakeford: "Mae awgrymu canllaw gwirfoddol wedi bod yn aneffeithiol ac mae angen camau fwy cadarn ar frys i gadw'r feirws dan reolaeth.
"Mae'r dystiolaeth yn erbyn caniatáu teithio o ardaloedd cyfraddau uchel yn glir. Mae dadansoddiadau'n dangos yr haint, yn gyffredinol, yn crynhoi mewn ardaloedd dinesig ac yna'n lledu i ardaloedd llai poblog o ganlyniad teithio.
"Mae ein hymdrechion yn cael eu tanseilio gan deithwyr o ardaloedd cyfraddau uchel yn rhannau eraill o'r DU yn teithio i Gymru."
'Mater i'r DU gyfan'
Mae'r llythyr yn cyfeirio at ymchwil wyddonol sydd newydd ei chyhoeddi, sy'n "amlygu cyflymder yr haint yn ddaearyddol ac yn cefnogi'r achos dros gyfyngiadau teithio" i reoli lledaeniad y feirws, yn enwedig mewn ardaloedd ble mae llai o achosion.
"Mae Cymru'n rhannu ffin gyda Lloegr ond mae'r mater yn un i'r DU gyfan", meddai Mr Drakeford, sydd hefyd wedi ysgrifennu at arweinwyr Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gofyn iddyn nhw gyflwyno cyfyngiadau teithio tebyg.
"Bydde'n well petai pob un o'r pedair gwlad yn gweithredu gyda'i gilydd, ond yn absenoldeb cytundeb ar y ffordd ymlaen, mi wna'i weithredu i gadw Cymru'n ddiogel."
Cyfeiriodd at y system tair haen sydd wedi'i chyhoeddi yn Lloegr, a barn prif swyddogion meddygol a gwyddonol Lloegr mai cyfnod byr o gyfyngiadau llym - mesurau circuit-breaker - oedd fwyaf tebygol o ddod â'r Rhif R dan 1.
Ychwanegodd ei fod wedi awgrymu ddydd Llun bod angen trafodaethau ar y cyd ynghylch gwahanol opsiynau brys i leihau'r Rhif R ar draws y DU, gan "ofyn eto i chi drefnu cyfarfod [COBRA] pellach ar frys yn benodol i drafod mesurau circuit-breaker".
Yn eu hymateb nhw i'r llythyr dywedodd Llywodraeth Yr Alban eu bod yn deall pryderon Mr Drakeford ac y byddai'r Prif Weinidog, Nicola Sturgeon yn ymateb maes o law.
'Dim ffiniau rhwng Cymru a Lloegr'
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nos Lun, byddai deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn Senedd Cymru "gynted â phosib" os nad oedden nhw wedi derbyn ateb "o fewn dyddiau".
Ond brynhawn Mawrth fe gafodd apêl Mr Drakeford ei gwrthod gan 10 Downing Street, sy'n mynnu bod "dim ffiniau ffisegol rhwng Cymru a Lloegr".
"Yr hyn rydyn ni wedi gwneud yw cyhoeddi cyngor sy'n glir iawn y dylai pobl o ardaloedd risg uchel iawn fel Glannau Mersi osgoi teithio i mewn neu allan o'r ardal," meddai llefarydd swyddogol Boris Johnson.
"Rydyn ni hefyd wedi gwneud hi'n glir iawn i'r cyhoedd y dylien nhw ddilyn unrhyw gyngor lleol sy'n cael ei cyjhoeddi gan y gweinyddiaethau datganoledig."
Ymchwil yn ddilys?
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am gyfeirio at ymchwil sydd heb ei adolygu gan wyddonwyr.
Mae'r ymchwil, sydd wedi ei weld gan BBC Cymru, yn dweud bod "llacio rheolau cyfnod clo ym mis Awst wedi cyd-fynd â chynnydd mewn achosion [yng Nghymru], all fod yn deillio o fewnforion o rannau eraill o'r DU a'r byd".
Mae'n ychwanegu bod achosion "mewn ardaloedd llai trefol" yn "fwy tebygol o fod o lefydd eraill ac yn anaml yn cael eu pasio ymlaen".
Ond dywedodd hefyd nad yw'r data yn "dystiolaeth bendant".
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething nad oedd yn credu bod galwadau am adolygu'r ymchwil "yn rhai dylen ni gymryd o ddifrif ar hyn o bryd".
Dywedodd y byddai'r amser i wneud hynny yn "golygu y byddai rhaid aros am gyfnod hir iawn cyn i ni allu gweithredu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020