Yr ifanc a ŵyr? Hywel Gwynfryn a Huw Evans
- Cyhoeddwyd
Un o ddarlledwyr mwyaf adnabyddus Cymru, Hywel Gwynfryn, a'i fab Huw Evans, cerddor a chyflwynydd, sy'n trafod ei gilydd yn ein cyfres o erthyglau am berthynas deuluol.
Huw, sy'n 30 oed, yw'r ail o bum plentyn Hywel a'i wraig Anya (Owain, Siôn, Tomos ac Anya yw'r lleill) ac mae ganddo hanner brawd a chwaer o briodas gyntaf ei dad, Ceri a Branwen. Mae'n perfformio fel H Hawkline ac wedi bod yn byw yn Los Angeles ers rhai blynyddoedd.
Huw Evans: 'Dwi'n ffan mawr o dad'
Fy atgo' cynta' i o dad ydy'r cawr mawr gwirion yma oedd yn ddoniol iawn ac yn licio gwneud inni chwerthin.
Un o'i hoff jôcs oedd dweud ei fod eisiau rhoi sws inni, ninnau'n dweud nad oedden ni eisiau sws trwyn ac yntau'n addo na fasai'n rhoi sws trwyn inni. Peth nesa', roedd yn rhoi ei geg o gwmpas ein trwynau ni, oedd yn afiach. Hwnna oedd un o'i hoff jôcs pan oedden ni'n fach.
Roedd yn unig blentyn ac fe gafodd fagwraeth llym iawn dwi'n meddwl, felly dyna pam efallai y gwnaeth o'r gwrthwyneb sef cael lot o blant a'u hannog nhw i neud beth bynnag roedden nhw eisiau.
'Yr un ffunud'
Fe ddaethon ni'n ymwybodol ei fod yn adnabyddus wrth fynd yn hŷn achos roedden ni'n ei glywed ar y radio.
Os oedden ni'n mynd i rywle fel y Steddfod roedd pawb isio siarad efo fo ac yn dweud wrth ein gweld ni'r plant "Www, 'dych chi'r un ffunud â'ch tad!"
Pan ti'n ifanc ti'n trio bod yn cŵl ond wrth fynd yn hŷn nes i ddod i werthfawrogi'n fwy yr holl bethe mae o wedi neud a faint mae wedi ei gyfrannu i ddarlledu a diwylliant Cymraeg.
Falle fod deud mod i'n prowd ohono ddim y peth iawn i'w ddweud - ond dwi yn ffan mawr o dad!
Dwi'n meddwl mai'r tro cyntaf imi sylweddoli ei fod falle yn berson mwy cŵl nag oeddwn i wedi ei feddwl i ddechre, a ddim jyst yn rhywun oedd yn codi cywilydd arna i, oedd pan nes i ddarganfod yn fy arddegau ei fod yn rhan o'r sîn gerddoriaeth Gymraeg gynnar ac wedi sgrifennu caneuon a geiriau i bobl fel Meic Stevens.
Dwi'n cofio mynd i'r atig i fynd drwy ei hen recordiau a ffeindio copi o'r sioe gerdd Melltith ar y Nyth. Wedyn gweld ar y cefn mai dad oedd wedi sgwennu'r geiriau, gwrando ar y gerddoriaeth a sylweddoli ei bod hi'n record o'n i'n rili hoffi.
Ond faswn i ddim yn dweud fod dad yn ddylanwad cerddorol arna' i - mae ganddo chwaeth uffernol mewn cerddoriaeth.
Pan 'nes i gychwyn cyflwyno roedd rhai pobl yn awgrymu fod na elfen o nepotistiaeth a mod i ddim ond wedi cael swydd fel cyflwynydd achos mod i'n fab i Hywel Gwynfryn. Ond i gyfieithu dihareb Saesneg, 'Dŵr oddi ar gefn hwyaden' ynte - geith pobl ddweud beth maen nhw isio.
Anghofus
Mae elfennau o'n personoliaethau ni'n debyg iawn. Yn anffodus dwi yr un mor anghofus â dad ac yn colli ffonau symudol, cardiau banc a phasborts ac anghofio am drefniadau. Dwi'n sicr yn cael hwnna gan dad.
Ond mae gan y ddau ohonon ni agwedd wahanol iawn tuag at waith. Agwedd dad ydy dy fod ti'n derbyn unrhyw beth sy'n cael ei gynnig iti achos ti ddim yn gwybod pryd mae'r swydd nesa'n dod - ti'n anghofio am dy egwyddorion ac yn ei wneud o.
Felly pan 'nes i wrthod lot o waith cyflwyno yn fy ugeiniau ar y sail fod o ddim be' o'n i isio'i neud byddai'n mynd yn flin iawn ac yn teimlo'n rhwystredig.
Ond dydi o erioed wedi bod yn siomedig ynddon ni fel plant. Dyna un peth amdano fo, mae o'n un o'n ffans mwya' ni ac yn berson cefnogol ofnadwy.
'Boi ffyni a charedig'
Dwi'n mwynhau cael paned ac eistedd i lawr a sgwrsio efo fo, mae'n neud i fi chwerthin - dwi'n licio hongian allan efo fo, mae'n foi ffyni!
Dwi ddim yn nabod unrhyw un mor garedig â dad. Mae ganddo wastad amser i stopio i siarad efo pobl - sy'n gyrru fi fyny'r wal weithie - a dyna un peth dwi di ddysgu ganddo, mai'r peth pwysicaf mewn bywyd ydy jyst bod yn neis wrth bobl.
Y peth arall dwi di ddysgu ganddo wrth ei weld yn mynd yn flin mewn bwytai pan nad ydi'r bwyd yn cyrraedd ar amser, ydy weithiau bod bwyd jyst yn cymryd amser i gyrraedd, a dyw poeni'r rhai sy'n gweini ddim yn mynd i wneud i'r bwyd gyrraedd yn gynt.
Hynny a sut i ddweud jôcs gwael ...
Hywel Gwynfryn: 'Cerddoriaeth ydy ei gariad cynta''
Bywiog, direidus a hoffus ydy'r geiriau cynta' sy'n dod i'r meddwl wrth imi feddwl am Huw yn blentyn. Hogyn drwg weithiau, fel mae pob plentyn yn gallu bod, ac un ddangosodd yn gynnar yn yr ysgol ei fod o'n licio perfformio drwy actio a chanu.
Dwi wedi ei rybuddio os ydi o byth yn bygwth dweud unrhyw beth cas amdana' i, y bydda' i'n cyhoeddi'r fideo sydd gen i ohono fo yn hogyn bach yn canu The Locomotion mewn jyrsi oedd ddim cweit yn mynd dros ei fol bach tew yng nghartref ein ffrindiau pan oedd o tua pedair oed.
Mae wedi cael mwy nag un rhybudd gen i - fel y tro pan aethon ni i Bortiwgal a finnau'n cael myll efo fo am ei bod wedi bod yn ddiwrnod hir a Huw ddim yn gwrando a ddim yn stopio siarad. Dyma fi'n ei cholli hi ac yn gafael ynddo fo gerfydd ei sgrepan a'i godi yn erbyn y wal. Mi wnes i droi rownd a gweld fod gen i gynulleidfa gyfan yn fy ngwylio drwy ffenestr tŷ bwyta ac un neu ddau wedi dychryn.
Cefnogaeth
Ond heblaw am hynny mae'r berthynas rhyngddon ni wedi bod yn un dda.
Dwi wedi trio magu fy mhlant i fod yn pwy bynnag maen nhw eisiau bod a ddim yn adlewyrchiad o'r hyn ydw i neu Anya. Dwi'n gredwr cryf yn hynny.
Fe fyddai wastad yn dweud mai tair 'C' rydych chi ei angen i fagu plant - eu Cael nhw, eu Caru nhw a - hyn sy'n bwysig - eu Cefnogi nhw. Mae bywyd yn rhoi cyfle ichi ddarganfod pwy rydych chi eisiau bod ac mae'n bwysig cymryd y cyfle.
Mi gafodd Huw gyfle pan oedd yn y chweched dosbarth yn Ysgol Glan Clwyd i gymryd rhan yn y gyfres deledu 'Xtra'. Dyna oedd cychwyn pethau iddo ac roedd o'n ofnadwy o lwcus - rydyn ni'n dau wedi bod yn lwcus i fod yn y lle iawn ar yr amser iawn.
'Meddwl ar ei draed'
Ar y rhaglen 'iDot' mi gafodd gyfle i gyflwyno pecynnau doniol, ysgafn oedd yn ei siwtio i'r dim. Mi ddangosodd hynny fod ganddo ddychymyg byw iawn - mae o'n medru meddwl ar ei draed, trin geiriau, bod yn ddoniol, yn ffres ac yn gyfoes.
Ro'n i wrth fy modd yn ei wylio efo Huw Stephens yn 'Bandit' - doeddach chi ddim yn cael yr argraff mai dau gyflwynydd oeddan nhw achos eu bod nhw'n siarad am rywbeth roedd y ddau ohonyn nhw'n gwybod yn iawn amdano fo sef y gerddoriaeth, fel dau ffrind mewn gwirionedd.
Mae'r holl bethau mae o'n eu gwneud fel darnau o jig-so o gwmpas yr un peth, sef cerddoriaeth. Dyna ydy ei gariad cynta'.
Dwi'n credu iddo gael siom pan ddaeth ei raglen radio i ben. Mae Huw yn gallu gwneud pethau carlamus weithiau, ond mi faswn i'n dadlau mai dyna oedd ei apêl i bobl ifanc. Doedd o byth yn mynd dros ben llestri ond doeddach chi chwaith ddim yn siŵr be oedd yn dod nesa' - yr hyn fysa'r Sais yn ei alw'n edgy - ac mae hynny'n apelio.
'Wedi blodeuo'
Ond tasa fo ddim wedi gorffen ar 'Bandit' ac ar Radio Cymru yn y cyfnod hwnnw fasa fo ddim wedi mynd i Los Angeles. Doedd na ddim byd arall yn digwydd yng Nghymru ar y pryd meddai. Mi ddywedais wrtho am fynd ar bob cyfri.
Mae'r cyfnod yn America yn teithio a pherfformio efo bandiau wedi ehangu ei brofiadau. Mi fydd yn edrych yn ôl ar y cyfnod hwnnw fel cyfnod cyfoethog iawn yn ei fywyd. Dyna pryd y tyfodd o fel cerddor dwi'n credu, mi flodeuodd o, mi wellodd fel cerddor yn offerynnol ac fel canwr a magu hyder o ran cyflwyno ei gerddoriaeth.
'Mwy i'w gynnig'
Mae'r plant yn gyffredinol wedi fy nghadw i'n ifanc. Mae gen i bolisi mod i'n gwrthod mynd yn hen, ond dwi'n hapus i fynd yn hŷn. Fedrwch chi ddim peidio gwneud hynny efo teulu mawr fel sy' gen i!
Faswn i ddim yn dweud o gwbl mod i wedi bod yn ddylanwad ar Huw o ran ei yrfa. Efallai fod perfformio yn y genynnau?!
Ond mi rydw i'n credu ei fod o'n llawer iawn mwy talentog nag oeddwn i pan wnes i gychwyn yn y busnes. Mae ganddo lot mwy i'w gynnig nag oedd gen i.
A deud y gwir rydw i'n eiddigeddus iawn ohono fo. Dwi wedi cael bywyd mor ffantastig fel perfformiwr, dwi'n eiddigeddus ei fod o yn dechrau, i bob pwrpas, ar ei yrfa rŵan. Mi faswn i wrth fy modd pe tawn i nôl ei oedran o i gael ei wneud o i gyd eto!