'Angen ymwybyddiaeth o gam-drin domestig cefn gwlad'

  • Cyhoeddwyd
cam-drinFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen codi mwy o ymwybyddiaeth ynglŷn â cham-drin domestig - yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Dyna'r neges gan elusen sy'n gweithio yn y maes yng Ngheredigion, a sy'n annog unrhyw un sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig i gysylltu â nhw am gyngor a chefnogaeth gyfrinachol.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y digwyddiadau o gam-drin domestig sydd wedi cael eu hadrodd i Heddlu Dyfed-Powys.

Er hynny mae Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru yn dweud ei fod yn bwnc nad yw pobl yn gyfforddus yn ei drafod mewn ardaloedd gwledig.

'Stunned fod problem yng Ngheredigion'

Mae Nicola Willis wedi gweithio i'r gwasanaeth ers wyth mlynedd. Dywedodd bod cymunedau clòs cefn gwlad yn gallu gwneud hi'n anodd i bobl siarad.

"Mae gennym ni bentrefi a threfi lle mae ysbryd cymunedol, pawb yn 'nabod pawb, pawb yn fodlon helpu'i gilydd.

"Ond yr ochr arall i hwnna yw bod pawb yn gwybod busnes pawb, ac mae rhai yn ofni beth fyddai pobl yn meddwl amdanyn nhw a beth fyddai pobl yn ei ddweud. 'Da ni yn gweld bod bach mwy o tabŵ yn yr ardal yma yn enwedig.

"Mae'n syndod i fi pan mae pobl yn gofyn i fi beth dwi'n gwneud fel gwaith ac [ar ôl clywed] maen nhw'n dweud 'O fydden i ddim wedi meddwl bod hynny'n digwydd yng Ngheredigion!'."

Disgrifiad o’r llun,

"'Da ni yn gweld bod bach mwy o tabŵ mewn ardal wledig," medd Nicola Willis

"Mae pobl yn hollol stunned bod problem yng Ngheredigion. Mae'r broblem ar draws y byd ac mae fe yn digwydd fan hyn, yn yr ardaloedd gwledig, yn bobman," ychwanegodd.

Mae effaith y cam-drin, meddai Nicola, i'w gweld mewn ystadegau brawychus.

"Mae un o bob pedair menyw yn mynd i fyw trwy ryw fath o gam-drin domestig yn ystod ei hoes. Mae'r ystadegau yr un mor wir ar gyfer Llundain, America a fan hyn yng Ngheredigion, mae pob man yr un peth.

"Ar gyfartaledd mae dwy fenyw bob wythnos ym Mhrydain yn cael eu llofruddio gan gariad neu gyn-gariad trwy gam-drin domestig."

'Cam-drin gwaeth yn ystod y pandemig'

Ym mis Awst y llynedd cyhoeddodd Cymorth i Fenywod adroddiad ar sut roedd cam-drin domestig wedi gwaethygu yn ystod pandemig Covid-19.

Yn ôl yr adroddiad 'A Perfect Storm, dolen allanol', ym mis Ebrill 2020 yn ystod y cyfnod clo cyntaf roedd mwy na thri chwarter y menywod a oedd yn cael eu cam-drin ar y pryd wedi dweud bod Covid-19 yn ei gwneud hi'n anoddach iddyn nhw ddianc rhag camdriniaeth.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n frawychus beth allai fod yn digwydd yn fwy nawr tu ôl i ddrysau caëedig, medd y rhai sy'n helpu

Dywedodd Nicola Willis: "Beth mae'r pandemig wedi gwneud yw creu sefyllfa lot mwy peryglus i lot o bobl.

"Oherwydd ble fyddai rhywun wedi mynd i'r gwaith fe fyddai'r partner wedi cael o leia' chwech awr y dydd ble fyddai'r person yna ddim adre.

"Byddai hynny wedi bod yn gyfle i ddod i weld ni, er enghraifft. Dydyn nhw ddim hyd yn oed nawr yn cael cyfle i gael sgwrs gyda rhieni eraill wrth giât yr ysgol.

"Mae e'n reallyscary beth allai fod yn digwydd yn fwy nawr tu ôl i ddrysau caëedig oherwydd bod neb yn eu gweld nhw."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae 'na sawl math o gamdriniaeth ddomestig, nid dim ond trais corfforol.

Mae'r cam-drin yn gallu bod yn seicolegol, yn economaidd - lle mae un person yn rheoli mynediad un arall at arian - neu yn gallu bod yn rheolaeth orfodol lle mae person yn defnyddio dull o ymddwyn dros amser er mwyn bod â phŵer a rheolaeth dros rywun arall.

Cyn 2018 roedd o gwmpas 350 o ddigwyddiadau yn ymwneud â thrais domestig yn cael eu hadrodd i Heddlu Dyfed-Powys bob mis. Ond ers y flwyddyn honno mae'r llu wedi blaenoriaethu ei ymateb i adroddiadau o gamdriniaeth ddomestig.

O ganlyniad, mae nifer y digwyddiadau y mae swyddogion yn clywed amdanyn nhw wedi cynyddu.

Erbyn hyn, ar gyfartaledd, mae tua 800 o ddigwyddiadau yn cael eu hadrodd i Heddlu Dyfed-Powys bob mis, ac ym mis Awst y llynedd fe gafwyd y nifer uchaf erioed mewn un mis sef dros 900 o ddigwyddiadau.

Stigma

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys: "Ry'n ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y digwyddiadau mae'r heddlu yn recordio.

"Falle bod e'n swnio'n rhyfedd bod Comisiynydd Heddlu yn datgan ei fod e'n beth da - ond dwi'n dehongli hyn fel bod pobl yn fwy parod i ddod aton ni ac estyn allan i gael cymorth.

"Dros amser dwi'n gobeithio y bydd yn gostwng ac y gallwn ni fod mewn sefyllfa lle fydd ddim angen i ni gael gwasanaethau trais domestig."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ofnau bod cam-drin domestig wedi gwaethygu yn y cyfnod clo

Er y cynnydd yn nifer yr adroddiadau i'r heddlu, fel Nicola Willis, mae Dafydd Llywelyn yn meddwl bod pobl mewn ardaloedd gwledig yn llai parod i siarad am y materion hyn.

"Yn bersonol, dwi'n credu fod rhywbeth yn niwylliant cefn gwlad sy'n dal i weld trais domestig fel rhywbeth sydd â rhyw stigma yn perthyn iddo fe.

"Mae pawb i raddau yn ymwybodol o fusnes ei gilydd mewn ardal wledig a [mae'n rhaid i ni gyfleu] trwy negeseuon cadarnhaol bod yr heddlu, cynghorau sir, byrddau iechyd yna i gefnogi pobl boed mewn ardal wledig neu drefol."

'Rhaid i ni ddisgwyl am y signs'

Mae Sefydliad y Merched wedi bod yn rhedeg ymgyrch ers sawl blwyddyn i godi ymwybyddiaeth ei aelodau ynglŷn â cham-drin domestig.

Dywedodd Mair Stephens, Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched yng Nghymru, ei bod hi wedi gweld aelod a oedd yn dioddef, ond yn ceisio cuddio hynny

"Roedd person ro'n i'n nabod wastad yn dod i gyfarfodydd â chleisiau arni, ac o'n i'n gofyn 'Beth ddigwyddodd te?', 'O! Cwympais i dros y blincin ci!', meddai hi.

"Ar ôl i'w gŵr hi adael, fe wnaeth hi gyfadde wedyn ei bod hi wedi cael trais yn y cartref. 'Dyw pobl ddim am roi'r wybodaeth yna'n eang ond mae'n rhaid i ni ddisgwyl am y signs."

Nawr mae Sefydliad y Merched yn ceisio recriwtio dynion i fod yn llysgenhadon er mwyn siarad mas yn erbyn cam-drin domestig.

"Ni'n treial recriwtio mwy o bobl, mwy o ddynion yn enwedig. Pobl mewn clybiau rygbi, a chorau meibion.

"Byddwn ni'n gofyn iddyn nhw i beidio cymeradwyo trais yn erbyn merched a hefyd bod nhw ddim yn cadw'n dawel ynglŷn â'r peth."

Rhif llinell gymorth Gwasanaeth Camdrin Domestig Gorllewin Cymru yw 01970 625585.

Ac mae llinell gymorth 24/7 ar gael ar draws Cymru ar gyfer unrhyw un sy'n diodde' camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, neu rywun sy'n nabod rhywun arall sy'n diodde.

Rhif ffôn llinell Byw Heb Ofn, dolen allanol yw 0808 80 10 800.